Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Senedd 2026
    • Cardiff
    • Swansea
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    • World
    Wales 247
    Home » BookTrust Cymru’n helpu plant i fwynhau awduron, storïwyr ac arlunwyr gorau Cymru wrth i hwb digidol Amser Gartref lansio
    Wales

    BookTrust Cymru’n helpu plant i fwynhau awduron, storïwyr ac arlunwyr gorau Cymru wrth i hwb digidol Amser Gartref lansio

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryApril 10, 2020Updated:April 10, 2020No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae BookTrust Cymru yn lansio hwb digidol newydd i helpu i ddifyrru plant a theuluoedd sydd gartref, ac i rannu llyfrau, straeon a rhigymau gan rai o hoff awduron, darlunwyr a storïwyr Cymru.

    Bydd BookTrust Cymru HomeTime – AmserGartref BookTrust Cymru yn cynnwys darlleniadau o lyfrau wedi’u ffilmio, sesiynau rhigwm a chân, llyfrau stori a llun rhyngweithiol a llawer iawn mwy. Mae awduron, darlunwyr a storïwyr o bob cwr o Gymru’n cyfrannu’u gwaith i helpu plant a theuluoedd ddod drwy’r amser anodd hwn tra bo’r ysgolion ar gau a bywyd arferol wedi’i gyfyngu.

    Bydd AmserGartref BookTrust Cymru yn rhoi cyfle i arddangos peth o’r doniau rhagorol sydd gennym yng Nghymru, wrth rannu cynnwys o safon uchel yn Gymraeg a Saesneg.

    Bydd y safle’n lansio gyda Laureate Plant Cymru, Eloise Williams, yn darllen ei llyfr Elen’s Island fesul pennod; bydd chwedlau traddodiadol yn cael eu hadrodd gan y storïwr Michael Harvey; sesiynau ‘sut i arlunio’ gyda’r arlunydd Huw Aaron; ac Elin Meek yn darllen ei haddasiad Cymraeg o lyfr Roald Dahl, Billy and the Minpins.

    Yn arbennig ar gyfer y Pasg, bydd y safle hefyd yn rhoi sylw i fersiwn ryngweithiol hwyliog o’r llyfr stori a llun Every Bunny Dance!/ Pob Un Bwni’n Dawnsio! yn Gymraeg a Saesneg.

    Bydd modd i deuluoedd ddod o hyd i restrau o weithgareddau rheolaidd ar lein, gan gynnwys sesiynau amser rhigwm ac amser stori dan ofal llyfrgelloedd lleol, heriau ysgrifennu gan awduron a gwybodaeth ynghylch ble i ddod o hyd i syniadau gwych ar lein ar gyfer mwynhau llyfrau, straeon a rhigymau.

    Gall teuluoedd hefyd ddilyn y cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #BookTrustHomeTime a #AmserGartrefBookTrust.

    Bydd BookTrust HomeTime Wales – AmserGartref BookTrust Cymru yn dolennu gyda hwb BookTrust ar draws y Deyrnas Unedig, BookTrust HomeTime hefyd, sy’n cynnal arlwy eithriadol o syniadau a grëwyd gan brif awduron ac arlunwyr llyfrau plant, mewn ymateb i gau’r ysgolion ym Mhrydain, a bwriad y cyfan yw diddanu plant a’u cael i ddarllen yn ystod y cyfnod hwn o newid mawr.

    Meddai Helen Wales, Pennaeth BookTrust Cymru:

    “Mae teuluoedd ledled y wlad yn addasu i ffordd newydd o fyw dros dro, ac mae BookTrust yma i roi cefnogaeth a hwb yn y ffordd orau y gwyddom ni – drwy gael hwyl gyda llyfrau, straeon a rhigymau! Rydym ni’n falch iawn i fod yn cynnal yr hwb cynnwys rhad ac am ddim hwn er mwyn gallu rhannu adnoddau, syniadau a gweithgareddau gan rai o awduron, darlunwyr a storïwyr anhygoel Cymru.

    “Mae cyfoeth rhyfeddol o ddoniau yng Nghymru, yn Gymraeg a Saesneg, a’n gobaith ni yw y bydd AmserGartref BookTrust Cymru yn helpu llawer mwy o blant i ddod o hyd i ffefryn newydd.”

    Dywedodd Laureate Plant Cymru, Eloise Williams:

    “Mae straeon yn rhoi hudoliaeth a gobaith i ni. Cyfle i chwerthin neu godi calon ar adeg o argyfwng. Ymdeimlad gwell o gydymdeimlad a dealltwriaeth am fywydau pobl eraill. Rwy’n cyfrannu at AmserGartref BookTrust Cymru oherwydd bod angen nawr, yn fwy nag erioed, i ni deimlo’r agosatrwydd sy’n dod yn sgil straeon.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Welsh business raises £16,000 for Pembrokeshire RNLI crews

    September 24, 2026

    When do the clocks change in 2026?

    September 21, 2026

    Welsh Government and councils renew strategic partnership agreement

    September 18, 2026

    Comments are closed.

    Latest News in Wales

    Anthony Joshua vs Tyson Fury fight confirmed for Cardiff

    September 25, 2026

    – Pontsticill Road to remain closed until March 2027 for major works

    September 25, 2026

    Newport city centre festival to kick-start countdown to Eisteddfod yr Urdd

    September 25, 2026

    £575,000 funding pot opens for community organisations in Neath Port Talbot

    September 25, 2026

    More than 30 Pembrokeshire schools join Young Ambassadors training day

    September 25, 2026

    Gemma Charnock appointed chair of Neath Port Talbot Culture Partnership

    September 25, 2026

    Bridgend residents invited to find out how to become a councillor

    September 25, 2026

    New Blaenavon mural to celebrate town’s floral heritage

    September 25, 2026

    Inspirational learners celebrated at Wales’ 2026 Adult Learning Awards

    September 25, 2026

    Welsh businesses using AI report major gains in efficiency and innovation

    September 25, 2026
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.