Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Mae’r Gwasanaeth Tân yn cynyddu ymdrechion diogelwch ar gyfer Noson Tân Gwyllt
    Yn Gymraeg

    Mae’r Gwasanaeth Tân yn cynyddu ymdrechion diogelwch ar gyfer Noson Tân Gwyllt

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 28, 2025Updated:October 28, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: franhermenegildo from Getty Images (via Canva)
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Wrth i Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt agosáu, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn lansio ei ymgyrch flynyddol, sef Ymgyrch Bang, i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn digwyddiadau’n gysylltiedig â thân ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n digwydd fel arfer rhwng 25ain Hydref a 11eg Tachwedd.

    Er bod y cyfnod hwn yn cael ei ddathlu gan lawer, dyma un o’r cyfnodau mwyaf heriol o’r flwyddyn i griwiau tân. Mae GTADC yn gweld cynnydd sylweddol mewn tanau a gynnau sy’n cael eu gosod yn fwriadol, camddefnyddio tân gwyllt, ac ymosodiadau ar ymatebwyr brys –

    “Mae ein diffoddwyr tân yma i amddiffyn a gwasanaethu dros 1.6 miliwn o bobl ledled De Cymru,” meddai Mike Hill, aelod o Dîm Lleihau Llosgi Bwriadol y Gwasanaeth. “Ond yn ystod Ymgyrch Bang, rydym yn wynebu nid yn unig ddigwyddiadau peryglus, ond hefyd cam-drin. Rydym eisiau i’r cyhoedd ddeall ein bod yn gweithio i’w hamddiffyn, ac rydym yn ceisio addysgu pobl am atal. Rydym yn trin pobl â pharch, a hoffem ofyn am gael ein trin yn yr un modd.

    Dengys ystadegau bod dros 18% o gyfanswm nifer yr ymosodiadau ar griwiau yn 2024 wedi’u cofnodi yn y cyfnod hwn yn unig, gyda nifer y digwyddiadau’n dyblu o 2023 i 2024. Mae diffoddwyr tân wedi adrodd am gam-drin geiriol, bygythiadau corfforol, a chael eu hymosod wrth ymateb i ddigwyddiadau.

    Yn ystod cyfnod Ymgyrch Bang 2024, gwelodd gorsafoedd Caerdydd, Caerffili, Aberbargod, a Dyffryn gynnydd sylweddol mewn cynnau tân yn fwriadol; gyda thanau cynwysyddion sbwriel a cherbydau ffordd yn cynyddu’n sylweddol.

    Mae’r Gwasanaeth yn ceisio:

    • Lleihau nifer yr achosion o danau a gynnau’n fwriadol
    • Codi ymwybyddiaeth o risgiau tân yn gysylltiedig â choelcerthi, tân gwyllt ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Annog dathliadau diogel a pharchus
    • Dangos yr heriau gwirioneddol y mae criwiau tân yn eu hwynebu gan ddefnyddio data cyfredol
    • Atgyfnerthu nad yw ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân yn dderbyniol.

    Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn galw ar drigolion i gefnogi eu criwiau tân lleol a helpu sicrhau bod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn parhau i fod yn ddiogel ac yn bleserus i bawb. Bydd hyn yn bosib drwy ddathlu’n ddiogel a mynychu dathliadau a reolir gan y gymuned lle bo modd, adrodd ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy’r sianeli priodol, a pharchu ein cymunedau, ein hamgylchedd a’n hymatebwyr brys.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.