Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Dathliadau’r haf i nodi 850 mlynedd o draddodiad yr Eisteddfod
    Yn Gymraeg

    Dathliadau’r haf i nodi 850 mlynedd o draddodiad yr Eisteddfod

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryMarch 3, 2026No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Summer celebrations to honour 850 years of Eisteddfod tradition
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Yr haf hwn, bydd cyfres o ddathliadau arbennig yn nodi 850 mlynedd ers i’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf gael ei chynnal, gan greu cyfle i ymfalchïo yn hanes diwylliannol Cymru ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg.

    Gyda chefnogaeth o £250,000 gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd y rhaglen yn dod â stori’r Eisteddfod gyntaf yn fyw drwy weithgareddau addysgol, creadigol a chymunedol. Ei nod yw ysbrydoli pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, cymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol a phontio’r gorffennol â’r presennol.

    Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf gan yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd yng Nghastell Aberteifi yn 1176, gyda beirdd a cherddorion yn cystadlu mewn digwyddiad a ddatblygodd i fod yn sylfaen i’r traddodiad modern. Bydd Eisteddfod y Garreg Las eleni yn cael ei chynnal yn Llantwd, lai na phedair milltir o safle Eisteddfod 1176, gan greu cysylltiad uniongyrchol rhwng y gorffennol a’r presennol.

    Mae elfen gymunedol gref i’r gweithgareddau yn y cyfnod hyd at yr Eisteddfod, gyda phererindod dan arweiniad pyped enfawr o’r Arglwydd Rhys yn ymweld â phentrefi o amgylch y dalgylch wrth deithio o Dyddewi i Gastell Aberteifi.

    Bydd cyfle hefyd i blant yr ardal fwynhau cynhyrchiad rhyngweithiol am hanes yr Arglwydd Rhys, gan gyflwyno gwreiddiau’r Eisteddfod i genhedlaeth newydd a’u hannog i ymddiddori yn ein diwylliant.

    Bydd wythnos yr Eisteddfod (1-8 Awst) hefyd yn cynnwys pob math o weithgareddau a digwyddiadau sy’n dathlu cyrraedd yr 850, gan asio’r gorffennol gyda’r presennol ar draws pob un o’r llwyfannau amrywiol.

    Bydd y buddsoddiad hefyd yn cefnogi ymgyrch ddigidol i ymestyn y dathliadau ar-lein, gan godi proffil yr Eisteddfod a chyflwyno ei stori i gynulleidfaoedd newydd ledled Cymru ac yn rhyngwladol.

    Fel digwyddiad diwylliannol mwyaf Cymru, mae’r Eisteddfod yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Bydd y cyllid yn ogystal yn cefnogi gwaith yr Eisteddfod i gyflwyno mesurau ymarferol pellach i leihau allyriadau a helpu’r ŵyl i barhau i arwain y ffordd fel yr ŵyl gyntaf yng Nghymru i gyrraedd net sero.

    Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: ”Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth er mwyn ein galluogi ni i nodi pen blwydd mor arbennig yn hanes yr Eisteddfod. Bydd elfennau gweladwy iawn i’r cynllun , ac yn sicr fe fydd yr orymdaith ar draws y dalgylch yn sicr o godi ymwybyddiaeth am yr ŵyl, ein hiaith a’n diwylliant wrth deithio.

    “Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth i’n gwaith yn y maes cynaliadwyedd, sy’n elfen hollbwysig o brosiect yr Eisteddfod.”

    Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford: “Mae’r Eisteddfod wedi siapio’r iaith a’r diwylliant Cymraeg ers cenedlaethau, gan ysbrydoli rhai o’n hartistiaid mwyaf talentog a chefnogi cymunedau lleol a’r economi ehangach.

    “Rwy’n falch o gefnogi’r digwyddiadau pen-blwydd hyn. Maent yn anrhydeddu’r gorffennol, yn dathlu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg heddiw, ac yn cyflwyno’r Eisteddfod i gynulleidfaoedd newydd o bob cwr o Gymru a thu hwnt.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Mae cynllun pontio athrawon Cymraeg yn gwahodd ceisiadau newydd

    February 10, 2026

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025
    Leave A Reply Cancel Reply

    Yn Gymraeg

    Dathliadau’r haf i nodi 850 mlynedd o draddodiad yr Eisteddfod

    March 3, 2026

    Mae cynllun pontio athrawon Cymraeg yn gwahodd ceisiadau newydd

    February 10, 2026

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.