Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Senedd 2026
    • Cardiff
    • Swansea
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Dathlu llwyddiant dysgwyr Cymraeg ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026
    Yn Gymraeg

    Dathlu llwyddiant dysgwyr Cymraeg ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryMay 23, 2026Updated:May 23, 2026No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Katie Baddiley / Caerwyn Saunders
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn (dydd Sadwrn, 23 Mai) cyflwynwyd Medalau i Katie Baddiley a Caerwyn Saunders, enillwyr Prif Gystadlaethau’r dysgwyr 2026.

    Dyfarnwyd Medal Bobi Jones (19-25 oed) i Katie Baddiley yn wreiddiol o Nottingham sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon, a Medal y Dysgwyr (Bl.10 ac o dan 19 oed) i Caerwyn Saunders o Dreorci.

    Nod cystadlaethau Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr yw gwobrwyo unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg, sy’n ymfalchïo yn eu Cymreictod ac yn gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg.

    Y beirniaid ar gyfer y ddwy wobr eleni oedd Eirian Wyn Conlon a Francesca Sciarrillo. Francesca oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, pan oedd Eirian yn un o’r beirniaid.

    Noddwyd y ddefod gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol sydd hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol i ddysgwyr ar hyd y Maes heddiw, ar ddiwrnod dathlu dysgwyr yr Urdd.

    Medal Bobi Jones

    Mae Medal Bobi Jones yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 mlwydd oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu’r iaith, yr effaith mae dysgu’r Gymraeg wedi ei gael ar eu bywydau, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

    Mewn cystadleuaeth o safon anhygoel, gyda 7 ymgeisydd a ‘phob un yn ysbrydoliaeth’ yn ôl y beirniad, Katie Baddileyddaeth i’r brig, o drwch blewyn.

    Dechreuodd Katie ddysgu Cymraeg yn 2023 pan symudodd i Fangor i astudio yn y Brifysgol. Mae’n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ac yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Nantlle.

    Mae hi wedi newid cyfrwng iaith ei bywyd yn llwyr mewn amser byr, ac yn awyddus i helpu dysgwyr eraill ar eu taith.

    Dywedodd: “Dwi’n teimlo’n gryf y dylai unrhyw un sy’n gweithio mewn ardal Gymraeg efo’r cyhoedd ddangos parch drwy ymdrechu i siarad Cymraeg gyda nhw.

    “Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu cwrs yn Nant Gwrtheyrn ac i ddysgu Cymraeg drwy fy ngwaith. Dwi’n mwynhau canu yn y Gymraeg gyda Chôr Heddlu Gogledd Cymru. Hoffwn fagu plant sy’n rhugl yn y Gymraeg un diwrnod ac efallai ysgrifennu colofn yn y Gymraeg yn fy mhapur bro lleol.”

    Dyfarnwyd Caitlin Brunt o’r Drenewydd yn ail a Georgia Jones o Wrecsam yn drydydd.

    Medal y Dysgwyr

    Mae hi’n 40 mlynedd ers cyflwyno Medal y Dysgwyr am y tro cyntaf, yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen 1986.

    Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i berson ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 mlwydd oed sy’n gallu dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.

    Dywedodd y beirniaid fod yr ymgeiswyr i gyd yn “llysgenhadon arbennig i’r iaith Gymraeg, ac mae’n deg dweud ei bod hi’n ddiogel yn nwylo’r ymgeiswyr hyn.”

    Caerwyn Saunders o Dreorci ddaeth i’r brig. Mae Caerwyn yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Treorci ac yn aelod brwd o’r Urdd sy’n gwirfoddoli ac yn cystadlu yn aml mewn Eisteddfodau. Mae’n Gadeirydd y Criw Cymraeg yn yr ysgol, ac yn falch iawn o fod yn llysgennad ysgol i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Dywedodd: “Mae’r Urdd wedi agor drws i fyd hollol newydd i fi a dwi wedi bod yn lwcus i gael fy ysbrydoli gan athrawon anhygoel bob dydd yn yr ysgol yn Nhreorci, yn enwedig Mrs James, sy’n rhoi popeth er mwyn codi statws y Gymraeg yn yr ysgol. Hoffwn fod yn athro Cymraeg yn y dyfodol – i ysbrydoli eraill i gadw’r iaith yn fyw.

    “Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb – a dyma’r neges dwi’n benderfynol o’i lledaenu.”

    Dyfarnwyd Jayden Reaney o Gaer yn ail ac Effie Capstick o Gaergybi yn drydydd.

    Rhoddir Medal Bobi Jones gan Aelwyd / Capel Cildwrn a rhoddir Medal y Dysgwyr gan Bwyllgor Cronfa Eisteddfod Genedlaethol 1957.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Bydd Llanidloes yn cynnal Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2027

    May 1, 2026

    Arolwg newydd yn dangos Reform UK ychydig ar y blaen i Blaid Cymru yn etholiad y Senedd

    April 29, 2026

    Dathliadau’r haf i nodi 850 mlynedd o draddodiad yr Eisteddfod

    March 3, 2026
    Leave A Reply Cancel Reply

    Yn Gymraeg

    Dathlu llwyddiant dysgwyr Cymraeg ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

    May 23, 2026

    Bydd Llanidloes yn cynnal Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2027

    May 1, 2026

    Arolwg newydd yn dangos Reform UK ychydig ar y blaen i Blaid Cymru yn etholiad y Senedd

    April 29, 2026

    Dathliadau’r haf i nodi 850 mlynedd o draddodiad yr Eisteddfod

    March 3, 2026

    Mae cynllun pontio athrawon Cymraeg yn gwahodd ceisiadau newydd

    February 10, 2026

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.