Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru
    Yn Gymraeg

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryDecember 22, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: Aberystwyth Arts Centre
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae buddsoddiad mawr gwerth dros £8.94 miliwn i gryfhau amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a lleoliadau diwylliannol eiconig Cymru wedi’i gyhoeddi heddiw [ddydd Llun 22 Rhagfyr] i dyfu a chryfhau sylfeini diwylliannol “hanfodol” y genedl.

    Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynyddu ei gwariant ar gyfer y sector diwylliant ehangach 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddiad mewn lleoliadau a safleoedd o’i gymharu â degawd yn ôl.

    Mae’r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar £11 miliwn mewn grantiau cyfalaf sydd eisoes wedi’u dyfarnu dros y chwe mis diwethaf ers lansio ei Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, ochr yn ochr â mentrau wedi’u targedu sy’n cefnogi mynediad pobl ifanc at brofiadau diwylliannol.

    Mae’r buddsoddiad yn cynnwys:

    • £1.9 miliwn ar gyfer 15 prosiect a fydd yn helpu i feithrin capasiti mewn amgueddfeydd, archifau a gwasanaethau llyfrgelloedd lleol drwy arbenigedd ychwanegol gan gynnwys curaduron, llyfrgellwyr ac archifwyr. Bydd prosiectau sy’n derbyn cyllid yn sicrhau gwelliannau i fynediad i’r cyhoedd, digideiddio casgliadau hanes lleol a defnyddio technoleg ac allgymorth i ddyfnhau ymgysylltiad â’r gymuned.
    • Bron i £2.2 miliwn ar gyfer Cronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n cefnogi gwelliannau cyfalaf i adeiladau, lleoliadau a chyfarpar celfyddydol. Mae’r gronfa eisoes wedi cefnogi 40 o brosiectau gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr y Sherman, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Theatr y Torch.
    • £767,000 i Opera Cenedlaethol Cymru, drwy Cyngor Celfyddydau Cymru, i gefnogi cynaliadwyedd ariannol y sefydliad hwn o arwyddocâd cenedlaethol a galluogi gwireddu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy a chadarnhaol.
    • £250,000 ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i gefnogi ystod o brosiectau i wella cynaliadwyedd a phrofiad ymwelwyr, gan gynnwys cymorth i adfer y Tŷ Gwydr Mawr a’i gasgliadau.
    • £2 filiwn ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – yr unig ddarparwr addysg uwch yng Nghymru sy’n darparu hyfforddiant celfyddydau perfformio conservatoire – er mwyn diogelu ei ddyfodol a sicrhau bod darpariaeth cerddoriaeth a drama o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar berfformiad yn parhau.
    • £1.87miliwn ar gyfer ailddatblygu Theatr Clwyd i gefnogi gwaith darganfod asbestos a dodrefn a chyfarpar o safon (yn ddarostyngedig i amodau). Mae hyn yn mynd â chyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y prosiect i £25.37 miliwn ers 2022-23.

    Mae’r cyhoeddiadau heddiw yn dilyn £5 miliwn o gyllid a ymrwymwyd yr wythnos diwethaf [ddydd Gwener 19 Rhagfyr] ar gyfer cyfleusterau a phrosiectau chwaraeon, megis pwll nofio’r Urdd yn Llangrannog a chymorth sylweddol i bêl-droed a golff menywod.

    Cyhoeddwyd £2.5 miliwn pellach ar gyfer y sector creadigol hefyd yn gynharach y mis hwn, gan adeiladu ar Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a oedd yn canolbwyntio ar y sector creadigol a gynhaliwyd ar yr un pryd.

    Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

    “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol arall mewn sefydliadau diwylliannol yng Nghymru ac mae’n ailddatgan fy nghred nad yw ein hamgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn ychwanegiadau dewisol ond yn sylfeini diwylliannol angenrheidiol. Bydd y prosiectau hyn nid yn unig yn gwella mynediad i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, ond byddant yn meithrin cydweithredu, yn gwarchod hanes lleol ac yn cryfhau ymgysylltu, dysgu a chyfranogiad ar draws cymunedau.

    “Bydd y buddsoddiad hwn gwerth £8.94 miliwn yn darparu capasiti hanfodol i sector sydd wedi bod yn glir am y pwysau y mae’n eu hwynebu, gan roi’r cymorth angenrheidiol i gyflawni ein blaenoriaethau a’n huchelgeisiau a rennir yn y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.”

    Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru,

    “Rydym yn croesawu buddsoddiad ychwanegol Llywodraeth Cymru yn y celfyddydau, gan gynnwys rhagor o gyllid cyfalaf a chefnogaeth ychwanegol i Opera Cenedlaethol Cymru a’r datblygiad cyffrous yn Theatr Clwyd. Bydd yr arian yma’n sicr o gael effaith bositif a hirdymor ar gymunedau ledled Cymru, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r sector i sicrhau bod profiadau celfyddydol ysbrydoledig o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru.”

    Bydd y cymorth i amgueddfeydd, archifau a gwasanaethau llyfrgelloedd lleol hefyd yn cynnwys £900,000 pellach o gyllid grant, sydd ar gael i’w ddyrannu tan hydref 2026.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025
    Leave A Reply Cancel Reply

    Yn Gymraeg

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.