Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Bydd Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd 2027 yn cael ei chynnal yn Llanidloes ddydd Sadwrn 9 Mai 2026.
Yn ôl y traddodiad, cynhelir y Cyhoeddi o leiaf flwyddyn a diwrnod cyn yr Eisteddfod er mwyn croesawu’r ŵyl i’r ardal a chroesawu’r ardal i fod yn rhan o’r ŵyl.
Y gobaith yw llenwi strydoedd Llanidloes gyda gorymdaith liwgar fydd yn dod ag ysgolion, cymdeithasau lleol a grwpiau cymunedol dalgylch yr Eisteddfod ynghyd. Wedi’r orymdaith bydd seremoni yn cael ei chynnal dan arweiniad Gorsedd Cymru, lle bydd yr Archdderwydd Mererid yn derbyn y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau gan Aled Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
Wrth edrych ymlaen at y seremoni, dywedodd Aled: “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad arbennig yma. Dyma’r cyfle cyntaf gwirioneddol i bobl Powys a De Gwynedd fwynhau cyffro presenoldeb yr Eisteddfod yn eu hardal leol, a dyma wahoddiad i’r gymuned gyfan fod yn rhan o’r daith tuag at yr ŵyl fis Awst nesaf.”
Bydd yr orymdaith yn gadael Ysgol Uwchradd Llanidloes am 14:00 ac yn dychwelyd erbyn i’r seremoni gychwyn am 15:00. Mae disgwyl i’r digwyddiad ddod i ben erbyn 16:00.
I gofrestru i fod yn rhan o’r orymdaith, neu i wirfoddoli yng Ngŵyl Cyhoeddi 2027 ewch i wefan yr Eisteddfod (www.eisteddfod.cymru). Bydd y Rhestr Testunau sy’n cynnwys manylion holl gystadlaethau Eisteddfod 2027 ar gael mewn siopau lleol ar draws Cymru wedi seremoni’r Cyhoeddi.
