Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Mae cydweithrediad sylweddol rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat yn arwain at arloesedd endosgopau defnydd untro a all ddiwallu anghenion gofal iechyd byd-eang.
Mae buddsoddiad chwe ffigwr gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi bod yn gatalydd ar gyfer datblygiad hollol newydd gwerth miliynau lawer bunnau mewn gofal iechyd gan gwmni IQ Endoscopes o Gas-gwent, i ddatblygu dyfais defnydd untro fydd yn trawsnewid gofal i gleifion ac yn gostwng amseroedd aros y GIG.
Trwy’u Cronfa Her, dyfarnodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd £750,000 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (CAVUHB) i archwilio sut y gall arloesedd gyflymu triniaethau endosgopau yng Nghymru, gyda £374,000 o’r swm hwnnw’n cael ei ddarparu i IQ Endoscopes. Roedd y buddsoddiad hwnnw’n gatalydd i’r cwmni sicrhau cefnogaeth sylweddol gan y sector preifat, gan alluogi swyddi newydd, gweithgynhyrchu posibl yng Nghymru, a llwybr byd-eang i farchnad.
Tarfwyd yn ddifrifol ar wasanaethau endosgopau ledled Cymru yn ystod y pandemig, roedd rhestrau aros yn fwy na 30,000 o gleifion ar ôl y pandemig, gydag achosion brys yn gorfod aros am hyd at 43 wythnos. Aeth y prosiect a gefnogir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ati i roi sylw i’r her hon trwy:
- Datblygu endosgopau defnydd untro cynaliadwy sy’n dileu prosesau glanhau hirfaith.
- Galluogi triniaethau wrth erchwyn y gwely neu mewn clinigau, gan greu llwybrau newydd i gleifion.
- Cynyddu cynhwysedd i glinigwyr a lleihau amseroedd aros.
- Gwella effeithlonrwydd ysbytai, gan roi gwelyau ar gael a chyflymu rhyddhau cleifion o ysbytai.
Gwerthuswyd y ddyfais newydd yn annibynnol gan y Ganolfan ar gyfer Gwerthuso, Asesu Dyfeisiadau ac Ymchwil Gofal Iechyd (CEDAR), gan gadarnhau’i hyfywedd clinigol. Mae IQ Endoscopes yn paratoi ar gyfer cael eu derbyn yn ehangach ledled systemau iechyd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
A hithau wedi’i lansio yn 2021, bwriadwyd i Gronfa Her gwerth £10 miliwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ysgogi arloesi y mae modd ei uwchraddio trwy gysylltu anghenion y sector cyhoeddus ag arbenigedd y sector preifat. Caiff yn awr ei chyfuno â rhaglen Infuse newydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae’r llwyddiant diweddaraf hwn yn dangos sut y gall buddsoddiadau cyhoeddus cymharol fychain ddatgloi cefnogaeth breifat fawr, cyflawni technolegau sy’n newid bywyd, a lleoli De Cymru fel canolfan o safon byd ar gyfer arloesi technoleg feddygol.
Dywedodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Dyma yn union y cynlluniwyd Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i’w gyflawni: cysylltu heriau’r sector cyhoeddus â busnesau arloesol i ddarparu datrysiadau sy’n trawsnewid gwasanaethau, denu buddsoddiad preifat sylweddol, a chynhyrchu gwerth economaidd ar gyfer ein rhanbarth. Mae IQ Endoscopes yn enghraifft wych o hyn ar waith.”
Dywedodd Matt Ginn, Prif Swyddog Gweithredol, IQ Endoscopes:
“Mae’r cymorth gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyflymu’n datblygiad ac wedi’n helpu i brofi y gall arloesedd a wneir yng Nghymru ddiwallu anghenion gofal iechyd byd-eang. Rydym yn falch o fod yn adeiladu busnes sy’n cyflawni i gleifion, y GIG a’n heconomi.”
Dywedodd yr Athro Jared Torkington, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr yn CAVUHB:
“Mae’r prosiect hwn yn enghreifftio sut y gall cydweithredu strategol rhwng GIG Cymru, diwydiant, a chyllid arloesi rhanbarthol gyflawni newid trawsnewidiol. Trwy dreialu endosgopau defnydd untro mewn lleoliadau clinigol go iawn, rydym nid yn unig yn gostwng amseroedd aros ond rydym hefyd yn ail-lunio sut a lle y gellir darparu gofal. Mae’n gyfnod balch i Gaerdydd a’r Fro fod ar flaen y gad mewn arloesi sydd o fudd i gleifion, clinigwyr a’r system iechyd ehangach.”
