Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Arolwg newydd yn dangos Reform UK ychydig ar y blaen i Blaid Cymru yn etholiad y Senedd
    Yn Gymraeg

    Arolwg newydd yn dangos Reform UK ychydig ar y blaen i Blaid Cymru yn etholiad y Senedd

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryApril 29, 2026Updated:April 29, 2026No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Senedd (Adobe Stock)
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae arolwg newydd, a gynhaliwyd gan Survation ar ran Prifysgol Aberystwyth a Newyddion S4C, yn gosod Reform UK ychydig ar y blaen i Blaid Cymru o ran bwriad pleidleisio cyn etholiad y Senedd.

    Mae’r canlyniadau’n awgrymu ras agos, gyda Reform UK ar 30% a Phlaid Cymru ar 28%. Mae Llafur yn dilyn ar 15%, tra bod y Ceidwadwyr a’r Blaid Werdd ar 10%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 4%, a 4% yn dewis plaid arall.

    Dr Anwen Elias

    Dywedodd Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth, a arweiniodd y dadansoddiad o’r arolwg barn:

    “Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu tirwedd wleidyddol hynod gystadleuol cyn etholiad y Senedd, gyda dwy blaid ar hyn o bryd yn arwain o ran bwriad pleidleisio. Er bod Reform UK fymryn ar y blaen i Blaid Cymru, mae’n glir ei bod hi’n anhygoel o agos rhwng y ddwy blaid.  Ar sail arolwg mor agos, mae’n arbennig o anodd rhagweld pa blaid fydd yn ennill y nifer fwyaf o seddi yn y Senedd. Mae’r chweched sedd ym mhob etholaeth yn debygol o gael ei phenderfynu gan nifer fechan iawn o bleidleisiau. Mae hi wir yn y fantol.

    “Mae hi hefyd yn drawiadol bod yr arolwg hwn yn dangos sut mae cefnogaeth i’r ddwy blaid a enillodd y nifer fwyaf o seddi yn etholiadau diwethaf y Senedd, Llafur a’r Ceidwadwyr, wedi gostwng mor bell y tu ôl i’r ceffylau blaen.  Os yw’r canlyniadau hyn yn cael eu hailadrodd ar 7 Mai, fe fyddan nhw’n cynrychioli newid hanesyddol yn ein gwleidyddiaeth ni.”

    Arolwg Barn Eholiad y Sendd 2026 – Bwriad Pleidleisio

    Mae tua dwy ran o dair o bleidleiswyr yn nodi cost byw ar 67% a’r GIG a gofal iechyd ar 64% fel y ffactorau pwysicaf sy’n dylanwadu ar eu pleidlais. Mae mewnfudo ar 39% a’r economi yn fwy cyffredinol ar 31% hefyd yn cael eu rhestru’n uchel, tra bod tai, newid hinsawdd, trosedd ac addysg yn cael eu dewis gan nifer llai o ymatebwyr.

    Mae’r arolwg hefyd yn canfod bod gan y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol, sef 60%, a bod ychydig dros hanner wedi bod yn dilyn yr ymgyrch etholiadol i ryw raddau o leiaf.

    Mae ymgysylltiad yn amrywio’n sylweddol yn ôl oedran, gyda phobl hŷn yn fwy tebygol o fod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth na phobl iau. Ymhlith y rhai 65 oed a hŷn, mae mwy na dwy ran o dair yn dweud eu bod wedi rhoi llawer o sylw neu rywfaint o sylw i’r ymgyrch etholiadol, o’i gymharu â llai na hanner y rhai 16 i 24 oed.

    Mae 20% o’r ymatebwyr yn dweud mai Plaid Cymru sy’n cynnal yr ymgyrch etholiadol orau, gyda Reform UK yn dilyn yn agos ar 18%, tra bod 39% yn dweud nad ydynt yn gwybod pa blaid sy’n cynnal yr ymgyrch orau.

    Pan ofynnwyd pa blaid sy’n cynrychioli buddiannau Cymru orau, mae Plaid Cymru ar y blaen ar 34%, ac yna Reform UK ar 16%. Fodd bynnag, mae mwy na chwarter yr ymatebwyr yn dweud nad oes yr un o’r pleidiau’n cynrychioli buddiannau Cymru orau neu nad ydynt yn gwybod.

    Ychwanegodd Dr Elias:

    “Mae’r data hefyd yn dangos bod lefelau ymgysylltu â’r ymgyrch yn amrywio’n sylweddol, yn enwedig yn ôl oedran, gyda llawer o bleidleiswyr iau yn llai ymgysylltiedig na grwpiau hŷn.

    “Mae’r canlyniadau hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd pryderon bob dydd wrth lunio blaenoriaethau pleidleiswyr, yn enwedig cost byw a phwysau ar y GIG. Ar yr un pryd, mae bwlch amlwg rhwng bwriad pleidleisio a chanfyddiadau ynglŷn â pha blaid sy’n cynrychioli buddiannau Cymru orau, gan awgrymu bod pleidleiswyr yn tynnu ar amrywiaeth o ystyriaethau wrth bleidleisio.”

    Cynhaliwyd yr arolwg ar sampl gynrychioliadol o 1,065 o oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru, a holwyd rhwng 17 a 23 Ebrill 2026 drwy banel ar-lein. Pwysoliwyd y canlyniadau i adlewyrchu proffil poblogaeth Cymru. Mae ffigurau bwriad pleidleisio wedi’u pwysoli yn ôl tebygolrwydd yr ymatebwyr o bleidleisio.

    Bydd y canfyddiadau’n cael eu trafod ar 30 Ebrill rhwng 17:15 a 18:30 ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais. Bydd y digwyddiad yn edrych ar newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn pleidleisio a’r data arolygon barn diweddaraf, gan gynnwys canfyddiadau o Astudiaeth Etholiad Cymru, prosiect ymchwil sy’n edrych ar agweddau ac ymddygiad gwleidyddol yng Nghymru. Bydd hefyd yn ystyried yr hyn y mae’r canfyddiadau’n ei olygu i Gymru ar ôl 7 Mai.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Dathliadau’r haf i nodi 850 mlynedd o draddodiad yr Eisteddfod

    March 3, 2026

    Mae cynllun pontio athrawon Cymraeg yn gwahodd ceisiadau newydd

    February 10, 2026

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025
    Leave A Reply Cancel Reply

    Yn Gymraeg

    Arolwg newydd yn dangos Reform UK ychydig ar y blaen i Blaid Cymru yn etholiad y Senedd

    April 29, 2026

    Dathliadau’r haf i nodi 850 mlynedd o draddodiad yr Eisteddfod

    March 3, 2026

    Mae cynllun pontio athrawon Cymraeg yn gwahodd ceisiadau newydd

    February 10, 2026

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.