Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Gwelliannau mawr i drafnidiaeth ar y ffordd i Dde Orllewin Cymru
    Yn Gymraeg

    Gwelliannau mawr i drafnidiaeth ar y ffordd i Dde Orllewin Cymru

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 30, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Bydd preswylwyr a busnesau ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe’n elwa o welliannau sylweddol i rwydwaith trafnidiaeth y rhanbarth yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru.

    Nod y cynllun, a fydd yn llywio buddsoddiad a datblygiad mewn trafnidiaeth hyd at 2030, yw ei gwneud yn haws, yn wyrddach ac yn fwy fforddiadwy i bobl deithio ar draws y rhanbarth.

    Mae’n nodi sut y bydd trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio a rhwydweithiau ffyrdd yn cael eu gwella i gysylltu cymunedau’n well, cefnogi economïau lleol a chreu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer de-orllewin Cymru.

    Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, sy’n dwyn ynghyd y pedwar awdurdod lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn y rhanbarth.

    Mae’n dilyn proses ymgynghori helaeth lle rhannodd bron 900 o breswylwyr, busnesau a sefydliadau cymunedol eu barn ar y cynllun drafft.

    Helpodd yr adborth i lunio’r cynllun terfynol, sydd bellach wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.

    Bydd y cam nesaf yn cynnwys gwaith manwl i addasu’r rhestr derfynol o gynlluniau a fydd yn derbyn cyllid a dechrau ar y gwaith cyflwyno. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y byddant yn cael eu cadarnhau.

    Meddai’r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, “Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gam mawr ymlaen i Dde-orllewin Cymru.

    “Bydd y cynllun hwn yn helpu i wneud teithiau bob dydd yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cynaliadwy i breswylwyr, gan hefyd gefnogi busnesau a buddsoddiad newydd.”

    Meddai’r Cynghorydd Darren Price, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig, “Mae’r cynllun hwn wedi’i lunio gan bobl ardal De-orllewin Cymru.

    “Gwnaethom wrando’n astud ar breswylwyr, grwpiau cymunedol a busnesau drwy gydol yr ymgynghoriad, ac mae eu barn wedi chwarae rhan hanfodol wrth greu cynllun sy’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol.”

    Mae Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru yn disodli Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd 2015, a bydd yn llywio sut mae’r polisi cenedlaethol, a nodir y Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn cael ei gyflawni’n lleol rhwng nawr a 2030.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.