Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Ymwelodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Jo Stevens, â’r cwmni sydd wedi ennill gwobrau, Transcend Packaging, a leolir yn Ystrad Mynach, i weld cynnydd ar eu cwpanau a chaeadau poeth newydd ar gyfer Starbucks yn Ewrop.
Cydweithiodd y ddau gwmni ar Ymchwil a Datblygu ac arloeseddau gweithgynhyrchu helaeth i ddatblygu fersiwn newydd o gwpan wen eiconig Starbucks, a lansiodd ledled Ewrop yn yr haf, a bydd yn dod yn o fuan i’r Deyrnas Unedig. Daeth rhan o’r cyllid ar gyfer datblygu’r cynnyrch newydd hwn oddi wrth Gyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn 2024. Gwnaeth Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Jamie Pritchard, a’r Prif Swyddogol Gweithredol, Ed Edmunds, hefyd fynychu’r ymweliad.
Her gyffredin gyda chwpanau coffi prydau parod a chanddynt leinin plastig yw y gallant fod yn anodd eu hailgylchu gyda’r angen i wahanu’r leinin plastig oddi wrth y gwpan blastig yn ystod y broses ailgylchu. Trwy’u partneriaeth, arweiniodd gwaith Transcend a Starbucks at ddisodli leinin plastig y gwpan a defnyddio caen wedi’i seilio ar fwyn yn ei le. Yn ychwanegol, mae’r caeadau plastig defnydd untro wedi’u disodli gan ddeunyddiau ffibr, sydd wedi’u caenu â’r deunydd sydd wedi’i seilio ar fwyn.
Cwpanau newydd Transcend ar gyfer Starbucks yw cymhwysiad cyntaf y dechnoleg hon sy’n dechrau ymddangos i gwpanau coffi ar raddfa, ac mae’n ailgylchadwy’n gyffredinol ac yn ddull amgen compostadwy gartref ar gyfer yr adegau pan nad oes gan gwsmeriaid gwpan amldro. Mae gweithgynhyrchu eisoes wedi dechrau ym mhencadlys Transcend yn Ystrad Mynach, sy’n cyflogi bron i 200 o bobl, ac mae cludiannau eisoes yn cael eu hanfon i farchnadoedd niferus ledled Ewrop.
Drwodd a thro, bu hi’n flwyddyn eitha’ prysur i Transcend a Chyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Enillodd yr arloeswr pecynnu wobrau mawrion yn y Deyrnas Unedig, yn cynnwys gwobr “Aur” am arloesi cwpanau yng Ngwobrau Pecynnu Amgylcheddol y DU a’r “Gwobr Allforio Gweithgynhyrchu” yn y Gwobrau ‘Gwnaed yng Nghymru’ diweddar. Yn ychwanegol, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a thîm Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi yn ddiweddar wedi ennill ‘Cytundeb Bychan y Flwyddyn’ am iddo gyllido Transcend.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Mae Transcend Packaging yn stori wych o lwyddiant Cymru. Trwy’u partneriaeth â Starbucks, maent wedi llwyddo i dyfu’u hallforion ac maent yn darparu mwy o swyddi da sy’n rhoi arian ym mhocedi pobl leol.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi busnesau arloesol fel Transcend, trwy’n buddsoddiad ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, fydd yn ein helpu i gyflawni’n cenhadaeth o greu twf ym mhob rhan o Gymru a’r Deyrnas Unedig.”
Dywedodd Channing Nuss, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol a Chynaliadwyedd, a Chyd-sylfaenydd Transcend, am yr ymweliad: “Mae’r prosiect hwn yn nodi cyfnod diffiniol i Transcend ac i arloesi gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r modd y mae Starbucks yn cyflwyno’r dechnoleg newydd hon trwy Ewrop i gyd yn caniatáu inni ddangos potensial trawsnewidiol y datrysiad pecynnu rydym wedi’i ddatblygu. Cymeradwywn ddewrder Starbucks yn ail-ddylunio ac yn trawsnewid eu cwpan eiconig, gan greu cynnyrch newydd o’r radd flaenaf tra eu bod yn cael gwared â’r leinin plastig ac yn mabwysiadu caeadau ffibr. Gyda chefnogaeth Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydym wedi llwyddo i dorri tir newydd mewn technoleg cwpanau papur, sy’n profi sut y gall arloesi a chydweithredu ysgogi newid byd-eang.”
Dywedodd Adam Turner, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynaliadwyedd a Chydymffurfio Starbucks, am yr ymweliad:“Rwyf yn falch o fod yn rhan o’r tîm a ddaeth â chwpan gompostadwy ardystiedig newydd ac sy’n ailgylchadwy’n gyffredinol i farchnadoedd yn Ewrop – carreg filltir ystyrlon yn ein taith barhaus i gyflawni arloeseddau mwy cynaliadwy gan ddyrchafu profiad cwsmeriaid. Rwyf yn ddiolchgar am ein partneriaeth â Transcend Packaging ac am ymroddiad pawb sy’n cymryd rhan i wneud i hyn ddigwydd.”
Bwriodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Dirprwy Gadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac arweinydd dros Ymchwil, Arloesi a Buddsoddi, y sylw: “Mae’r cynnydd a wneir gan y tîm yn Transcend yn hynod ac mae’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fo cyrff megis Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cydweithredu â chwmnïau arloesol yn y sector preifat. Mae’r cyllid gan y Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi wedi helpu i sbarduno twf swyddi a chynnydd amgylcheddol trwy arloesedd Transcend.”
