Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Awdurdod newydd Tomenni Segur i Greu 60 o Swyddi ym Merthyr Tudful
    Yn Gymraeg

    Awdurdod newydd Tomenni Segur i Greu 60 o Swyddi ym Merthyr Tudful

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 3, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Tylorstown. Credit: Matthew Horwood
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Bydd pencadlys Awdurdod Tomenni nas Defnyddir newydd Cymru yn cael ei sefydlu ar hen domen lo wedi’i hadfer ym Merthyr Tudful, gan ddarparu tua 60 o swyddi newydd.

    Mae’r corff cyhoeddus newydd yn cael ei greu yn sgil pasio deddf bwysig, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi.

    Bydd Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru) yn mynd i’r afael â’r problemau diogelwch a achosir gan orffennol glofaol a mwyngloddio Cymru. Dyma’r sefydliad cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig.

    Bydd yr Awdurdod yn gyfrifol am asesu, categoreiddio, cofrestru ac archwilio’r holl hen domenni segur ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n effeithiol dros y tymor hir a lleihau bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd.

    Ar ôl ei greu, caiff ei bencadlys ei sefydlu yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Rhyd y Car ym Merthyr Tudful a bydd ganddo gynrychiolaeth ledled y wlad.

    Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar bosibiliadau darparu prentisiaethau a chyfleoedd addysg ôl-16 i greu gwythïen o sgiliau ar gyfer swyddi diogelu tomenni glo yn y tymor canolig a hir.

    Mae dros 90% o’r tomenni glo nas defnyddir sydd â’r potensial i fod yn fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd yng nghymoedd de Cymru.

    Daeth y cadarnhad mai yng nghanol cymunedau y maes glo y bydd cartref yr Awdurdod cyn cyfarfod Cabinet Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful ddydd Llun 3 Tachwedd.

    Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

    “Mae hyn yn newyddion ardderchog i Ferthyr Tudful a chymoedd y de’n gyffredinol.

    “Bydd dod â 60 o swyddi newydd i’r Pencadlys newydd a chartrefu’r Awdurdod leoli lle mae ei angen fwyaf yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau yn yr ardal.

    “Roedd Cymru’n arwain y byd gyda’i harbenigedd glofaol yn y 19eg a’r 20fed ganrif. Nawr gallwn fod yn arweinydd byd unwaith eto, y tro hwn am ofalu am waddol ein gloddfeydd a’n chwareli a datblygu gwythïen o dalent ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

    Tan y caiff yr Awdurdod ei sefydlu, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid cyhoeddus i ddarparu cyfundrefn arolygu a chynnal a chadw effeithiol ledled Cymru.

    Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

    “Mae pwrpas yr Awdurdod – sicrhau nad yw tomenni segur yn bygwth pobl – yn un hynod hynod bwysig.

    “Mae’n dda o beth bod Merthyr Tudful wedi’i ddewis i fod yn gartref i’r pencadlys, yng nghanol y cymunedau a fydd yn elwa fwyaf o’i waith pwysig.

    “Does gen i ddim amheuaeth y daw’n arweinydd byd yn ei faes trwy ddatblygu gwybodaeth, profiad a sgiliau ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir yn ystod y cyfnod hwn o newid hinsawdd sylweddol.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.