Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn rhoi bywyd newydd i ganol tref Merthyr Tudful
    Yn Gymraeg

    Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn rhoi bywyd newydd i ganol tref Merthyr Tudful

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 4, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Cabinet Secretary for Housing and Local Government - Jayne Bryant
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai Jayne Bryant wedi gweld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn adfywio canol tref Merthyr Tudful. 

    Yn ystod taith o amgylch canol y dref, a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cabinet ym Merthyr Tudful, ymwelodd â phrosiectau a gefnogir drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy’n adfywio ardaloedd allweddol o’r dref ac yn creu cyfleoedd i fusnesau lleol, trigolion ac ymwelwyr.

    Roedd y prosiectau yr ymwelwyd â nhw yn cynnwys y Farchnad Dan Do yng Nghanolfan Siopa Sant Tudful a adleoliwyd ac a drawsffurfiwyd.

    Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi derbyn mwy na £1.6 miliwn o gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gefnogi symud y farchnad o’i lleoliad presennol ar y llawr uchaf i uned fawr wag ar y llawr gwaelod yn y Ganolfan Siopa, safle Wilko gynt.

    Bydd y lleoliad newydd yn gwneud y farchnad yn gwbl hygyrch. Rydym yn disgwyl i’r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

    Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant: “Mae canol ein trefi a’n dinasoedd wrth galon ein cymunedau Cymreig, ac mae’n wych gweld drosof fi fy hun sut mae’r prosiectau hyn yn cyflawni newid ystyrlon i Ferthyr Tudful.

    “Drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rydym wedi buddsoddi mwy na £25 miliwn ym Merthyr, gan adfywio gofodau, cefnogi busnesau lleol a chreu cyfleoedd i drigolion.

    “Mae llwyddiant y cynlluniau hyn yn dangos sut y gall buddsoddiad wedi’i dargedu gan Lywodraeth Cymru ddatgloi potensial, cryfhau menter leol, ac adeiladu mannau cynhwysol sy’n dod â manteision gwirioneddol i ganol ein trefi a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.