Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Mae aelwydydd ledled Caerdydd yn lleihau eu costau ynni ac yn helpu i greu dyfodol glanach, gwyrddach drwy gofleidio ynni’r haul trwy bartneriaeth Cyngor Caerdydd â’r cynllun arloesol Solar Together.
Hyd yn hyn, mae 120 o aelwydydd yng Nghaerdydd wedi gosod paneli ynni haul drwy’r cynllun prynu ar y cyd, gan gynhyrchu ymhell dros hanner megawat (614 kW) o ynni glân, adnewyddadwy ar eu toeau.
Ochr yn ochr â phaneli ynni haul, mae 124 o gartrefi yng Nghaerdydd wedi ychwanegu batris storio, gan ddarparu 839 kWh o gapasiti storio ynni – gan helpu teuluoedd i arbed biliau a manteisio i’r eithaf ar eu buddsoddiad ynni haul.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Dan De’Ath:”Mae Solar Together yn cynnig llwybr syml, â chymorth at ynni haul ac mae’n grymuso trigolion Caerdydd i gymryd camau gwirioneddol ar newid yn yr hinsawdd, a lleihau eu costau ynni.
“Trwy ddod at ein gilydd, rydym yn gwneud ynni haul yn fwy fforddiadwy a hygyrch i bawb, gan hefyd gefnogi swyddi a sgiliau gwyrdd lleol. Mae pob panel ynni haul sydd wedi’i osod yn gam tuag at Gaerdydd cryfach, tecach a gwyrddach – ac rwy’n falch o frwdfrydedd ac arweinyddiaeth ein cymuned.”
Mae trigolion Caerdydd wedi buddsoddi dros £1 miliwn yn eu cartrefi drwy Solar Together, sy’n rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd i newid yn yr hinsawdd. Mae 71 o aelwydydd eraill yng Nghaerdydd eisoes ar y gweill ar gyfer gosodiadau ynni haul a batris cyn Ionawr 2026.
Mae Solar Together yn cynnig cyfle i breswylwyr elwa o bŵer prynu ar y cyd, gan leihau costau a darparu tawelwch meddwl trwy osodwyr wedi’u gwirio a gwarantau cadarn. Mae’r cynllun hefyd wedi rhoi hwb i’r economi leol, gyda 40 o osodwyr lleol yn cael eu cyflogi ar y prosiect, gan gefnogi swyddi gwyrdd a datblygu sgiliau yn y ddinas.
Er mwyn gwneud y mwyaf o bŵer prynu ar y cyd, roedd cynllun Caerdydd yn rhan o gynllun ehangach Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r defnydd yn y rhanbarth ehangach hefyd wedi bod yn gryf, gyda 216 o araeau solar yn cynhyrchu 1,071kW o ynni gwyrdd, wedi’u gosod y tu allan i Gaerdydd hyd yn hyn.
