Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Miloedd o ofalwyr di-dâl i elwa o hwb ariannu gwerth £15.75 miliwn
    Yn Gymraeg

    Miloedd o ofalwyr di-dâl i elwa o hwb ariannu gwerth £15.75 miliwn

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 6, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: Welsh Government
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau buddsoddiad sylweddol o £15.75m dros y tair blynedd nesaf i barhau â dau gynllun hanfodol sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl.

    Mae’r Cynllun Seibiant byr a’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn darparu achubiaeth hanfodol i filoedd o ofalwyr ledled Cymru. Bydd cyhoeddiad heddiw yn gweld y ddau gynllun yn parhau hyd at 2029.

    Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn galluogi gofalwyr di-dâl o bob oedran i gymryd seibiant personol o’u cyfrifoldebau gofalu, gan gynnwys teithiau cymdeithasol, aelodaeth hamdden ac offer i ddilyn hobi.

    Yn ystod ei dair blynedd gyntaf, darparodd y cynllun dros 50,000 o seibiannau byr, gan ragori ar ei darged cychwynnol o 30,000 yn sylweddol a chyrraedd gofalwyr nad oeddent yn hysbys o’r blaen i wasanaethau cymorth.

    Mae’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn darparu cymorth ariannol brys i ofalwyr di-dâl ar incwm isel, gan eu helpu i brynu eitemau hanfodol megis bwyd, nwyddau ar gyfer y cartref neu i dalu biliau cyfleustodau.

    Rhoddodd y gronfa gymorth i 29,500 o ofalwyr di-dâl rhwng Ebrill 2022 ac Ebrill 2025, bron dwbl ei darged gwreiddiol o 15,000. Yn hanfodol, mae’n darparu cyngor hefyd ar fudd-daliadau lles a chynllunio ariannol i gael effaith gadarnhaol barhaus.

    Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i ofalwyr di-dâl sy’n chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau ledled Cymru.

    “Mae’r Cynllun Seibiant Byr a’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr wedi profi eu gwerth dro ar ôl tro gan gynnwys cyrraedd gofalwyr y mae arnyn nhw angen cymorth ond nad oeddent yn hysbys i wasanaethau o’r blaen.

    “Dydy’r cynlluniau hyn ddim yn ymwneud â darparu seibiant a chymorth ariannol yn unig – maen nhw’n ymwneud â chydnabod y cyfraniad amhrisiadwy y mae gofalwyr yn ei wneud i’n cymdeithas a sicrhau bod ganddyn nhw’r cymorth i ofalu am eu llesiant eu hunain yr un pryd â gofalu am eraill.”

    Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Kate Cubbage: “Mae gofalwyr di-dâl yn hanfodol i gynnal ein system iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddarparu cymorth angenrheidiol a gwerthfawr o fewn teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

    “Rydyn ni’n gwybod bod gofal da yn ofal sy’n cael help llaw. Yn rhy aml mae gofalwyr yn dweud wrthym eu bod yn cael eu gadael i ofalu ar eu pennau eu hunain heb y cymorth cywir i ofalu amdanyn nhw eu hunain neu i wneud pethau eraill sy’n bwysig iddyn nhw. Mae llawer yn ymestyn allan am gymorth pan fyddant yn argyfwng arnynt.

    “Mae cadarnhau cyllid amlflwyddyn ar gyfer y Gronfa Gymorth i Ofalwyr a’r Cynllun Seibiant Byr Cenedlaethol yn darparu buddsoddiad y mae ei angen yn fawr yn y gwasanaethau sydd yn y sefyllfa orau i fod yno i ofalwyr pan fydd arnynt ei angen fwyaf. Gyda’i gilydd, byddant yn rhoi achubiaeth i ddegau o filoedd o ofalwyr gan roi cyfleoedd iddynt orffwys a chael eu gwynt atynt a chan gynnig cymorth ariannol brys i’r rhai sy’n gwneud y dewis anodd rhwng gwresogi a bwyta.

    “Mae buddsoddiad hirdymor Llywodraeth Cymru yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd angenrheidiol, nid yn unig i ofalwyr, ond hefyd i’r sefydliadau lleol sy’n gweithio’n ddiflino i’w cefnogi. Mae’r cyhoeddiad hwn o gyllid yn gydnabyddiaeth bwysig o’r rôl werthfawr y mae gofalwyr yn ei chwarae a phwysigrwydd blaenoriaethu cymorth ar eu cyfer.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.