Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Mae cynllun pontio athrawon Cymraeg yn gwahodd ceisiadau newydd
    Yn Gymraeg

    Mae cynllun pontio athrawon Cymraeg yn gwahodd ceisiadau newydd

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryFebruary 10, 2026No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    ‘Cynllun Pontio’ programme
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae rhaglen i gefnogi athrawon sy’n siarad Cymraeg i fynd yn athrawon uwchradd yng Nghymru ar agor bellach, a gellir gwneud ceisiadau tan 22 Chwefror 2026.

    Mae rhaglen ‘Cynllun Pontio’ yn cefnogi siaradwyr Cymraeg sy’n addysgu mewn ysgolion cynradd yng Nghymru ar hyn o bryd, sy’n addysgu y tu allan i Gymru neu sydd wedi bod allan o’r proffesiwn ers pum mlynedd neu fwy ac sy’n dymuno ailymuno â’r proffesiwn.

    Mae’r rhaglen yn talu cyflog tra bydd yr unigolyn yn cwblhau ei hyfforddiant i newid i fod yn athro uwchradd.

    Ers 2020 mae bron i 100 o bobl wedi cael cymorth drwy’r cynllun.

    Un ysgol sydd wedi elwa o’r cynllun yw Ysgol Bro Teifi. Dywedodd y Pennaeth, Gareth Evans: “Mae Cynllun Pontio wedi ein galluogi ni fel ysgol i ailhyfforddi athrawon cynradd i ddatblygu eu profiad a’u hyder i addysgu yn y sector uwchradd.

    “Yn ystod eu profiad, mae’r athrawon wedi elwa nid yn unig o gefnogaeth mentor o fewn yr ysgol, ond hefyd o gefnogaeth corff o staff profiadol.

    “Rydyn ni hefyd yn falch bod rhai ohonyn nhw wedi gallu cael swyddi gyda ni yn yr ysgol. Mae eraill wedi cael swyddi mewn ysgolion uwchradd eraill, gan gyflawni nod y cynllun o gynyddu capasiti athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y system addysg.  Heb os, mae hon yn rhaglen unigryw ac effeithiol.”

    Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Rydyn ni eisiau cefnogi’r rhai sy’n dymuno symud i addysg uwchradd neu ailymuno ag addysgu, gan ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg ar yr un pryd. Mae’r rhaglen hon yn darparu pecyn o hyfforddiant a chymorth ariannol i helpu pobl yn eu gyrfa addysg.

    “Mae Cynllun Pontio eisoes wedi helpu llawer o bobl i gyflawni eu huchelgais i fynd yn athrawon uwchradd, a dw i’n falch bod ffenestr geisiadau ar agor unwaith eto i gefnogi carfan newydd o bobl a hoffai ymuno ag addysg uwchradd ac addysgu drwy’r Gymraeg.

    “Mae’r rhaglen yn helpu i ddatblygu gweithlu addysgu i ddarparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n hanfodol wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg ein dysgwyr.”

    I wneud cais, dylai ymgeiswyr lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’i chyflwyno drwy e-bost erbyn dydd Sul, 22 Chwefror 2026.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025
    Leave A Reply Cancel Reply

    Yn Gymraeg

    Mae cynllun pontio athrawon Cymraeg yn gwahodd ceisiadau newydd

    February 10, 2026

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.