Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Bydd Caerdydd yn cynnal Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru ddydd Sul, 9 Tachwedd, mewn seremoni sy’n cael ei threfnu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol.
Yn rhan o’r digwyddiad coffa, bydd carfannau o’r Llynges Frenhinol, y Fyddin, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Fasnachol a’r Lluoedd Cadetiaid yn gorymdeithio heibio Neuadd y Ddinas ac ar hyd Rhodfa’r Brenin Edward VII, gan ymgynnull wrth Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays erbyn 10.40am. Yn ymuno â nhw fydd colofnau o gyn-bersonél y lluoedd arfog, wedi’u cydlynu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, ynghyd â chynrychiolwyr o sefydliadau sy’n gysylltiedig â gwrthdaro presennol a blaenorol.
O 10.30am, bydd Band Byddin yr Iachawdwriaeth Treganna yn canu rhagchwarae cerddorol fydd yn arwain at ddechrau’r gwasanaeth ychydig cyn 11am. Bydd y seremoni yn agor gyda geiriau gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk, y Caplan Anrhydeddus i Gyngor Caerdydd, ac yn cynnwys perfformiadau corawl gan Gôr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Chôr Cenedlaethol Ambiwlans Sant Ioan Cymru.
Am 10.59am, bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a’r Corfflu Drymiau yn seinio’r ‘Caniad Olaf’ wedi ei ddilyn gan salíwt ynnau gan Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd, i nodi dechrau dau funud o dawelwch. Bydd y ddau funud o dawelwch yn dod i ben gydag ail salíwt ynnau a chanu’r ‘Reveille’.
Bydd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, ac Eluned Morgan AoS, Prif Weinidog Cymru, yn ymuno â chyfranogwyr eraill i osod torchau ar Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Mae’r Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol yn gyfnod pwerus blynyddol i ni i gyd ddod at ein gilydd i anrhydeddu’r dynion a’r menywod di-ri sydd wedi gwasanaethu mewn cyfnod o wrthdaro, ond mae’n arbennig o arwyddocaol eleni wrth i ni nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae dewrder ac aberth ein dynion a’n menywod wedi llywio’r rhyddid rydyn ni’n ei fwynhau heddiw, ac mae’n ddyletswydd arnom i’w cofio.
“Wrth i ni ymgynnull wrth Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, yn ogystal â thalu teyrnged i’r rhai a roddodd eu bywydau, rydym hefyd yn ailddatgan ein cefnogaeth i’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a’u teuluoedd. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn ein hatgoffa o gost heddwch a’r cryfder parhaol sy’n dod o sefyll gyda’n gilydd fel cymuned, yn unedig yn wyneb gwrthdaro ac eithafiaeth.”
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae’r Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol yn achlysur ingol a fydd yn cael ei ailadrodd wrth gofebion ar hyd a lled Cymru.
“Mae arnom ddyled enfawr o ddiolchgarwch i’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr. Mae’r Gwasanaeth Cenedlaethol yn gyfle i ni gofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau yn amddiffyn ein rhyddid a’n ffordd o fyw. Mae hefyd yn bwysig meddwl am y milwyr sy’n gwasanaethu dramor heddiw, a’r peryglon y maent yn eu hwynebu. Mae’r gofynion arnyn nhw a’u teuluoedd yn sylweddol ac rwy’n cynnig fy nghefnogaeth iddyn nhw wrth i ni gofio ac anrhydeddu’r aberth maen nhw’n ei wneud.”
Bydd Band y Cymry Brenhinol a’r Corfflu Drymiau yn cloi’r seremoni gydag anthemau cenedlaethol Cymru a Phrydain Fawr. Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd osod torchau wrth y gofeb yn dilyn y gwasanaeth.
Ar ôl y seremoni, bydd yr holl gyfranogwyr a gwesteion yn ymgynnull o flaen Neuadd y Ddinas i wylio’r Orymdaith a’r Salíwt gan Is-Arglwydd Raglaw EF. Bydd y Cynghorydd Adrian Robson, Arglwydd Faer Caerdydd, a fydd hefyd yn gosod torch yn ystod y gwasanaeth, yn arwain teyrngedau’r ddinas pan fydd yn agor y Maes Coffa yng Nghastell Caerdydd ddydd Mercher 5 Tachwedd.
Wrth fyfyrio ar y Maes Coffa, dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Adrian Robson: “Bob blwyddyn, mae’r Maes Coffa yn ein hatgoffa o ddewrder ac anhunanoldeb ein lluoedd arfog. Mae’n cynnig cyfle i anrhydeddu pawb sydd wedi gwasanaethu, i gofio’r rhai a roddodd eu bywydau, ac i gefnogi’r teuluoedd sy’n cario eu hetifeddiaeth. Yn ogystal ag yn deyrnged i’r rheiny a fu farw, mae’r Maes yn symbol byw o’n parch a’n diolchgarwch parhaol.”
