Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar
    Yn Gymraeg

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 25, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs - Huw Irranca-Davies
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Erbyn hyn, mae maint Coedwig Genedlaethol Cymru gyfwerth â thros 90,000 o gaeau rygbi diolch i rwydwaith o safleoedd coetir ledled Cymru.

    Mae ychwanegiadau diweddar yn cynnwys dau safle newydd: Neuadd Aberduna yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Choedwig y Castell yn Sir Gaerfyrddin, sy’n ychwanegu 24 hectar rhyngddynt.

    Bydd y ddau safle hyn yn helpu i gefnogi natur, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a chefnogi mwy o bobl i dreulio amser mewn mannau gwyrdd.

    Dywedodd Lucy Powell, o Outside Lives yn Neuadd Aberduna:

    “Wedi’u harwain gan natur, rydym yn credu mewn adeiladu cymunedau sy’n gofalu amdanynt eu hunain a’i gilydd. Mae hyn yn golygu creu mannau croesawgar lle gall pobl gyfarfod, siarad, rhannu syniadau, a meithrin ymddiriedaeth.

    “Rydym wedi gweld hyn yn digwydd ar safle coedwig ein pencadlys; mae pobl yn naturiol yn dechrau cysylltu, gweithio gyda’i gilydd, a chefnogi ei gilydd a helpu i ailadeiladu’r ymdeimlad o gymuned sydd wedi’i golli dros amser.”

    Mae’r Goedwig Genedlaethol bellach hefyd yn cynnwys 23 o Goetiroedd Bach ledled Cymru. Mae’r rhain yn leiniau bach maint cyrtiau tenis a grëwyd gan ddefnyddio dull Miyawaki o blannu coed brodorol trwchus.

    Mae ychwanegiadau diweddar eraill at y Goedwig Genedlaethol yn cynnwys 20,000+ hectar arall o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, fel dwy ardal sy’n cael eu rheoli gan grwpiau cymunedol yn y Creunant a Croeso i’n Coedwigoedd.

    Mae yna hefyd ddau safle Coetir Coffa Covid-19 – yn Hafod y Bwch ar Ystâd Erddig Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Wrecsam ac Ynys Hywel ger Caerffili. Mae’r coedwigoedd hyn yn darparu lleoedd diogel, hygyrch i deuluoedd a ffrindiau gofio anwyliaid a fu farw yn ystod y pandemig.

    Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

    “Mae 90,000 hectar yn garreg filltir enfawr i Goedwig Genedlaethol Cymru ar ein taith tuag at greu coedwig sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de.

    “Mae mwy i’r Goedwig Genedlaethol na choed yn unig – mae’n ymwneud â sicrhau bod mwy o bobl yn gallu treulio mwy o amser ym myd natur a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”

    Mae safleoedd sy’n ymuno â’r Goedwig Genedlaethol yn cael arwyddion Llarwydd Cymreig a gynhyrchwyd gan Sefydliad Pobl Ddall Merthyr Tudful, menter gymdeithasol sy’n cyflogi pobl anabl a difreintiedig ledled de Cymru. Mae’r arwyddion wedi’u gwneud o Larwydd Cymreig sy’n cael ei dyfu, ei dorri a’i brosesu yng Nghymru, ac sydd wedi’i ardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC).

     

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.