Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Mae rhaglen gyllido sylweddol gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) yn trawsnewid tir diffaith i fod yn gymunedau newydd, sy’n darparu 2,500 o gartrefi gan gynnal mwy na 3,000 o swyddi, ac yn adennill yr hyn sydd gyfwerth â 132 o gaeau pêl-droed o leoedd gwag ledled De-ddwyrain Cymru.
Mae’r Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai (HVGF) gwerth £35 miliwn hyd yn hyn wedi cynorthwyo 14 o ddatblygiadau tai ledled naw awdurdod lleol, gan fynd i’r afael ag un o’r rhwystrau mwyaf rhag adfywiad: cost waharddol adfer safleoedd tir llwyd fyddai fel arall yn parhau heb eu datblygu, a rhoi sylw i anghenion tai.
Cafodd naw prosiect eisoes eu dyraniad llawn o gyllid, gyda phump arall yn y gwaith o wneud hynny. Mae’r cyfan yn cynnwys tai fforddiadwy fel rhan o’u cymysgedd, gyda’r ganran drwodd a thro yn cael ei phennu ar hyn o bryd.
Un o’r enghreifftiau mwyaf gweladwy o’r gronfa ar waith yw Parc y Ddraig, datblygiad daliadaeth gymysg o 200 o gartrefi yn Abercannaid, Merthyr Tudful. Caiff y safle yn awr ei ryddhau ar gyfer gwerthiant, ac fe’i marchnatir fel Dôl-Y-Ddraig.
Lleolir y prosiect, a gyflawnir gan yr adeiladwr lleol, Davies Homes, gyda chymorth £3.5 miliwn mewn grant gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, o fewn Ardal Adfywio Strategol Hoover, parth sydd wedi’i hen gysylltu â threftadaeth ddiwydiannol Merthyr. Mae gwaith ar y safle wedi hen ddechrau a bydd yn parhau fesul cyfnod tan 2030, gyda 10 y cant o’r gartrefi yn cael eu darparu fel gartrefi fforddiadwy.
Dywedodd Mike Brough, Cyfarwyddwr Twf Rhanbarthol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Mae’r Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai yn datgloi tir sydd wedi bod yn wag am flynyddoedd, ac yn ei droi’n fannau y gall pobl eu galw’n gartref. Ledled De-ddwyrain Cymru, mae’r rhaglen hon yn trosi 232 erw o dir llwyd diffaith yn 2,500 o gartrefi ac yn filoedd o swyddi.
“Ym Mharc y Ddraig, gwelwn adeiladwyr lleol yn creu tai daliadaeth gymysg, ansawdd uchel sy’n diwallu angen rhanbarthol ac yn cadw budd cymunedol yn y gymuned.
“Mae’n enghraifft berffaith o sut mae buddsoddiad gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn troi uchelgais yn ddeilliannau byd go iawn. Dyma fuddsoddiad rhanbarthol ar waith. Mae’n adfywiad ymarferol, gweladwy sy’n cysylltu’n gorffennol diwydiannol â’n dyfodol o ran tai.”
Ychwanegodd Matthew Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Davies Homes:
“Mae safleoedd fel Parc y Ddraig yn gymhleth, ond mae’r cymorth gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’u gwneud yn hyfyw.
“Dyma bobl leol yn adeiladu i deuluoedd lleol, gan greu cartrefi, hyfforddiant a chyflogaeth ar safle nas defnyddiwyd yn ddigonol ers degawdau. Erbyn 2030, bydd y rhan hon o Ferthyr yn edrych yn gyfan gwbl wahanol.”
Nod Cronfa Bwlch Hyfywedd Tai Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw cau’r bwlch ariannol sy’n rhwystro safleoedd tir llwyd neu gymhleth rhag datblygu. Mae’n cynorthwyo datblygiadau sy’n cynnwys tai fforddiadwy a daliadaeth gymysg, gan helpu i adfywio cymunedau a denu rhagor o fuddsoddiad preifat.
Mae pob prosiect yn cyfrannu tuag at nodau adfywio, cyflogaeth a chynaliadwyedd lleol, gan helpu i ddarparu’r cartrefi y mae ar Gymru eu hangen, gan ailddefnyddio tir a seilwaith sy’n bodoli.
