Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar ddarparu 44 o gartrefi cyngor newydd a gorsaf drafnidiaeth integredig yn Llandaf.
Wedi’i leoli ar safle’r hen ganolfan ailgylchu ar Heol Waungron, mae’r gwaith ar y safle yn mynd rhagddo’n dda gyda’r gwaith tir eisoes ar y gweill. Mae’r datblygiad yn rhan o raglen Cartrefi Caerdydd y Cyngor ac mae’n cael ei ddarparu gan bartneriaid y Cyngor, y datblygwr cenedlaethol Wates Residential.
Bydd y safle yn darparu 44 o fflatiau cyngor newydd un a dwy ystafell wely, law yn llaw â gofodau swyddfa a masnachol, gyda ffordd fynediad newydd wedi’i chynllunio i integreiddio canolfan drafnidiaeth fel y gall pobl gyfnewid rhwng Gorsaf Drenau Parc Waun-Gron a’r cyfleuster bws newydd i deithio i gyrchfannau eraill heb orfod teithio i ganol y ddinas.
Bydd y cyfleuster trafnidiaeth newydd yn gallu darparu ar gyfer hyd at 40 o symudiadau bws yr awr, ac yn hygyrch i fysiau sy’n teithio o’r gorllewin i’r de, o’r gogledd i’r de, a’r gorllewin i’r dwyrain, ac i’r gwrthwyneb.
Bydd y cartrefi newydd yn hynod effeithlon o ran ynni, gan ymgorffori technolegau adnewyddadwy fel pympiau gwres o’r ddaear a phaneli solar ffotofoltäig, gan ragori ar y safonau perfformiad ynni cyfredol.
Bydd y cartrefi yn cael eu dyrannu i bobl ar restr aros tai y ddinas, tra bydd cyfran yn cael ei ddefnyddio fel llety cymorth dros dro, gyda staff cymorth ar y safle, i bobl sy’n pontio o ddigartrefedd i fyw’n annibynnol.
Bydd integreiddio’r datblygiad preswyl gyda’r orsaf drafnidiaeth yn darparu gwell cysylltedd i’r ardal, gan alluogi cyfnewid di-dor rhwng y trên, y bws a theithio llesol.
Dwedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:
“Rwy’n falch o weld gwaith ar y gweill ar ein cynllun ar Heol Waungron. Mae’n un o nifer o gynlluniau sydd ar y safle ar hyn o bryd a fydd, gyda’i gilydd, yn darparu bron i 600 o gartrefi newydd i Gaerdydd, ac wrth gwrs mae gennym gannoedd mwy ar y gweill fel rhan o’n cynlluniau uchelgeisiol i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd i’r ddinas.
“Mae’r datblygiad hwn yn gam ymarferol ymlaen yn ein hymdrechion i ehangu cyflenwad Caerdydd o dai fforddiadwy. Trwy gyfuno llety parhaol a llety â chymorth gyda chysylltiadau trafnidiaeth integredig, rydym yn darparu cynllun sy’n diwallu ystod o anghenion tai wrth wella mynediad at wasanaethau a chyfleoedd ledled y ddinas.”
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De’Ath: “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wella teithio ar fysiau ar draws y ddinas i sicrhau bod y rhai sy’n teithio ar fws yn gallu cyrraedd eu cyrchfan yn gyflymach a mwynhau profiad gwell. Er nad yw’r Cyngor yn gweithredu nac yn rheoli gwasanaethau bysiau masnachol, rydym yn gyfrifol am ddarparu’r seilwaith i wella llwybrau bysiau. Bydd y gyfnewidfa fysiau newydd ar Heol Waungron yn galluogi pobl i deithio i amrywiaeth o gyrchfannau heb orfod mynd i ganol y ddinas yn gyntaf.”
Dwedodd Edward Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru, Wates Residential: “Nid cartrefi gwych yn unig sy’n diffinio lle ffyniannus. Mae’n cael ei siapio gan sut mae pobl yn cysylltu – â’i gilydd, â chyfleoedd, ac â’r ddinas ehangach. Yn Heol Waungron, rydym yn falch o fod yn darparu cartrefi fforddiadwy, ynni-effeithlon law yn llaw â gorsaf drafnidiaeth sy’n gwneud teithio bob dydd yn symlach ac yn fwy cynaliadwy. Mae hwn yn ddatblygiad sy’n gwirioneddol greu lle i bobl ffynnu.”
Disgwylir i’r cynllun gael ei gwblhau yn hydref 2027.
