Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Amserlen Llinell y Cambrian i gadw teithiau nos allweddol
    Yn Gymraeg

    Amserlen Llinell y Cambrian i gadw teithiau nos allweddol

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 29, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: Transport for Wales
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Ar ôl ymgysylltu â chymunedau lleol, bwriedir i wasanaethau trên gyda’r nos ar y Cambrian barhau i weithredu ar ôl newid yr amserlen ym mis Rhagfyr.

    Mae’r gwasanaethau canlynol wedi’u cynllunio i fod yn rhan o’r amserlen ar ôl newidiadau eleni:

    Dydd Llun i ddydd Sadwrn

    • 20:26 Pwllheli – Machynlleth
    • 21:47 Machynlleth – Pwllheli

    Roedd y gwasanaethau hyn i fod i gael eu dileu yn ystod misoedd y gaeaf ar ôl dangos nifer isel o deithwyr yn eu defnyddio dros y gaeafau blaenorol.

    Fodd bynnag, yn dilyn ymgysylltu cadarnhaol a thrafodaethau rhwng Trafnidiaeth Cymru a grwpiau cymunedol lleol, y bwriad yw y byddant yn aros yn eu lle, gyda monitro parhaus. Mae trenau newydd sbon yn dal i gael eu cynllunio i gael eu cyflwyno i’r lein y flwyddyn nesaf (2026).

    Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwrando ar bryderon pobl leol ac wedi cymryd camau i barhau i redeg gwasanaethau rheilffordd pwysig lle bo angen.

    “Rydym wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd sbon ar draws Cymru a’r Gororau, gyda gwelliannau pellach yn dod i ganolbarth Cymru yn ystod 2026.

    “Rydym yn falch o fod yn cyflawni newid go iawn i bobl Cymru.”

    Ychwanegodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad yn Trafnidiaeth Cymru: “Gan weithio’n agos gyda chymunedau lleol ar hyd Llinell y Cambrian, rydym yn falch o adfer y gwasanaethau nos hyn i gefnogi’r rhanbarth. Rydym yn annog pawb i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn fel y gallwn barhau i’w cefnogi yn y blynyddoedd i ddod.

    “Mae’n enghraifft glir o sut mae gwrando ar y bobl yn arwain at ganlyniadau gwell i bawb. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gyflwyno trenau newydd sbon i’r lein y flwyddyn nesaf”.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.