Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Bydd angen trwyddedau ar lety gwyliau yng Nghymru o dan Fil twristiaeth newydd
    Yn Gymraeg

    Bydd angen trwyddedau ar lety gwyliau yng Nghymru o dan Fil twristiaeth newydd

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 5, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: Visit Wales
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae pobl ar eu gwyliau yng Nghymru yn mynd i elwa o Fil newydd gyda’r nod o ddatblygu twristiaeth yng Nghymru a chynyddu faint o lety ymwelwyr o ansawdd uchel sydd ar gael.

    Bydd angen trwydded ar ddarparwyr llety gwyliau a bydd rhaid iddynt fodloni set o safonau sy’n dangos bod y llety yn addas ar gyfer ymwelwyr. Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn berthnasol i lety hunangynhwysol, hunanarlwyo fel bythynnod gwyliau a fflatiau. Bydd angen i ddarparwyr fodloni safon ‘addasrwydd ar gyfer llety ymwelwyr’ i gael trwydded, a hynny drwy ddangos bod ganddynt dystysgrifau diogelwch nwy a thrydanol ac yswiriant, ynghyd â larymau mwg a charbon monocsid.

    Mae ymchwil yn dangos nad yw bron i ddau o bob tri o bobl sy’n cynllunio teithiau yn y DU yn gwybod nad oes angen trwydded ar berchnogion llety gwyliau ar hyn o bryd. Byddai dros 80% o bobl sy’n cynllunio teithiau yn y DU yn fwy tebygol o drefnu llety gwyliau pe bai cynllun trwyddedu yn bodoli.

    Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

    “Mae ymwelwyr wrth wraidd y Bil hwn. Drwy roi sicrwydd iddynt fod llety ymwelwyr yng Nghymru yn bodloni’r safonau y byddent yn eu disgwyl, gallwn fagu hyder yn y diwydiant a chefnogi ein sector twristiaeth hanfodol hyd yn oed ymhellach.

    “Mae llawer o fusnesau eisoes yn gwneud y pethau cywir. Trwy ei gwneud yn ofynnol i bob busnes ddangos eu bod yn bodloni’r un safonau, rydym yn creu cystadleuaeth deg sy’n amddiffyn ymwelwyr a busnesau cyfrifol.”

    Mae’r Bil yn caniatáu i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol ymestyn trwyddedu i fathau eraill o lety.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.