Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Bydd Cymru yn cynnal twrnamaint rhyngwladol bach arall yng ngogledd Cymru fis nesaf fel rhan o’r paratoadau ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop Dynion Dan-19 UEFA 2026, a fydd hefyd yn cael ei chynnal ar draws y rhanbarth.
Mae’r twrnamaint, sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Tachwedd, yn cynnwys rhai o dimau ieuenctid gorau’r byd, gan gynnwys yr Almaen, UDA a Siapan.
Bydd y gemau’n cael eu chwarae mewn sawl lleoliad ar draws y gogledd, gan gynnwys Central Park (Clwb Pêl-droed Dinbych), Stadiwm Hops and Barley (Y Rhyl) a’r cae pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd, y STōK Cae Ras, cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Bydd Craig Knight yn arwain tîm Cymru Dan-19 unwaith eto, gan edrych i adeiladu ar eu gemau cyfeillgar yn ystod ffenestr ryngwladol mis Hydref yn erbyn y Swistir, yr Iseldiroedd a Lloegr.
Bydd y twrnamaint yn cynnig cyfle amhrisiadwy arall i dîm Cymru ddatblygu eu hunain yn erbyn gwrthwynebwyr rhyngwladol elitaidd, cyn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop UEFA Dan-19 yr haf nesaf.
Bydd manylion tocynnau ar gyfer pob un o’r gemau yn cael eu cadarnhau yn fuan. Bydd pob un o dair gêm Cymru yn cael eu darlledu’n fyw gan y Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar ei wasanaeth ffrydio RedWall+ ac ar ei lwyfan YouTube.
MD 1 – Dydd Mercher 12fed o Dachwedd
16:30 – UDA v Yr Almaen – Y Rhyl
19:00 – Cymru v Siapan – Central Park, Dinbych
MD2 – Dydd Sadwrn 15fed o Dachwedd
14:30 – Cymru v UDA – STōK Cae Ras, Wrecsam
19:00 – Yr Almaen v Siapan – Central Park, Dinbych
MD3 – Dydd Mawrth 18fed o Dachwedd
11:00 – Cymru v Yr Almaen – Central Park, Dinbych
11:00 Siapan v UDA – Y Rhyl
