Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ailasesu cwmpas a dyluniad Hyb Trafnidiaeth arfaethedig Castell-nedd ar ôl cael adborth yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus.
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan Gabinet y cyngor yn ei gyfarfod ar 29 Hydref 2025.
Prif nod yr ailasesiad fydd mynd i’r afael â’r pryderon a’r materion a godwyd gan drigolion, defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus a busnesau yn ystod yr ymgynghoriad.
Yn sgil yr adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus, ni fydd y cynllun yn mynd rhagddo ar ei ffurf bresennol a chaiff unrhyw brosiect yn y dyfodol ei ddatblygu fel rhan o Uwchgynllun ehangach ar gyfer Canol Tref Castell-nedd.
Cafodd dau opsiwn arall eu diystyru, sef bwrw ymlaen â’r cynllun er gwaethaf y gwrthwynebiad, a rhoi’r gorau iddo yn gyfan gwbl.
Esboniodd y Cyngh. Wyndham Griffiths, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd: “Rydyn ni wedi gwrando ar yr hyn roedd gan ein trigolion i’w ddweud yn ystod yr ymgynghoriad ac mae’n amlwg nad oes llawer o gefnogaeth i’r cynllun ar ei ffurf bresennol.
“Mae angen i ni edrych ar y cynllun eto, a byddwn ni’n gwneud hynny nawr. Bydd swyddogion yn archwilio amrywiaeth o opsiynau datblygu amgen, a bydd modd eu cyflwyno i’r aelodau i’w hystyried.
“Oherwydd yr adborth a gafwyd, ni fydd y prosiect hwn yn mynd rhagddo ar ei ffurf bresennol mwyach a bydd unrhyw brosiect trafnidiaeth yn y dyfodol yn cael ei gyflawni fel rhan o Uwchgynllun ehangach ar gyfer Canol Tref Castell-nedd.”
Bydd y broses ailasesu’n cynnwys:
· Ystyried newidiadau i gwmpas a dyluniad y cynllun yn seiliedig ar bryderon a godwyd gan y cyhoedd.
· Ystyried yr amcanion adfywio a chreu lleoedd ehangach ar gyfer canol y dref, a sut y gall seilwaith trafnidiaeth newydd helpu i gyflawni’r uchelgeisiau hyn, gan sicrhau y bydd unrhyw gynllun newydd yn gyson ag uwchgynllun a rhaglen adfywio ehangach ar gyfer canol y dref.
· Cydweithio’n agos â phartneriaid allweddol (Network Rail, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru) er mwyn archwilio’r potensial ar gyfer ehangu’r cynllun i gynnwys yr orsaf drenau.
Ynglŷn â’r opsiwn i roi’r gorau i’r cynllun yn gyfan gwbl, dywedodd adroddiad gan swyddogion i’r Cabinet: “Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd a buddsoddiadau sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus (drwy Trafnidiaeth Cymru). Colli cyfle fyddai rhoi’r gorau i’r holl waith i ddatblygu cynigion ar gyfer uwchraddio seilwaith trafnidiaeth yng Nghastell-nedd, a cheir risg y caiff y seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn y fwrdeistref sirol ei adael ar ôl.”
Clywodd y Cabinet y byddai angen mwy o amser nawr i archwilio opsiynau amgen ac y byddai’n hanfodol ymgysylltu ymhellach â’r cyhoedd a rhanddeiliaid.
Roedd penderfyniad y Cabinet yn amodol ar gyfnod galw i mewn tri diwrnod o hyd.
