Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Bydd gwaith yn dechrau ar barc sglefrio stryd newydd ym Mharc Victoria, Abertawe
    Yn Gymraeg

    Bydd gwaith yn dechrau ar barc sglefrio stryd newydd ym Mharc Victoria, Abertawe

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 10, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: Swansea Council / Curve Studio
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Disgwylir i’r gwaith ddechrau i greu cyfleuster newydd tebyg i sgwâr stryd ar gyfer sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog eraill ym Mharc Fictoria Abertawe yn y mis nesaf.

    Bydd Cyngor Abertawe’n penodi contractwr i gyflawni’r gwaith cyn bo hir, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

    Mae cyfarfod yn cael ei gynnal yn y parc am 4.30pm ddydd Mawrth 11 Tachwedd, lle bydd arbenigwyr o Curve Studio wrth law i siarad â phobl am y prosiect a fydd yn cael ei gynnal yn yr ardal lle mae’r ramp sglefrio wedi’i leoli ar hyn o bryd.

    Yna, bydd cyfarfod dilynol yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas, lle bydd diweddariad yn cael ei roi ar safleoedd eraill a fydd yn elwa o fuddsoddiad gwerth £2.8m gan y cyngor mewn chwaraeon olwynog ledled y ddinas.

    Bydd dyluniadau wedi’u diweddaru ar gyfer cyfleuster beiciau BMX yng nghyfadeilad Chwaraeon Elba yn Nhregwŷr a pharc sglefrio gwell yn Ynystawe yn cael eu rhannu yn y cyfarfod.

    Fel pob prosiect sy’n rhan o’r buddsoddiad cyffredinol, mae’r dyluniadau’n dilyn ymgynghoriad helaeth.

    Mae buddsoddiad y cyngor yn golygu na fydd yn rhaid i bobl yn y rhan fwyaf o Abertawe deithio mwy na dwy filltir i gyrraedd cyfleuster chwaraeon olwynog newydd neu wedi’i uwchraddio.

    Meddai’r Cynghorydd David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Gyflwyno, “Rydym yn deall pa mor boblogaidd yw sglefrfyrddio, reidio beiciau BMX a chwaraeon olwynog eraill yn Abertawe.

    “Dyma pam rydyn ni’n buddsoddi mor helaeth mewn cyfleusterau newydd neu well ledled y ddinas er budd ein pobl ifanc a phobl o bob oedran sy’n dwlu ar chwaraeon olwynog.

    “Bydd y cyfarfodydd sydd wedi’u cynllunio ar gyfer yr wythnos nesaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl o ran ble rydyn ni gyda’r buddsoddiad cyffredinol wrth i ni barhau i weithio’n agos ochr yn ochr ag arbenigwyr yn Curve Studio i ddarparu cyfleusterau o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion a dyheadau pobl.

    “Os yw cyfleuster newydd neu well wedi’i gynllunio ar gyfer eich cymuned, mae’n werth i chi ddod i’r cyfarfod i gael diweddariad yn bersonol.”

    Bydd contractau gwaith hefyd yn cael eu dyfarnu cyn bo hir i uwchraddio’r parc sglefrio ym Mynydd Newydd ym Mhen-lan ac yng Nghanolfan y Ffenics yn Townhill.

    Mae’r prosiectau a gwblhawyd yn cynnwys gwelliannau mawr i gyfleusterau chwaraeon olwynog yng Nghoed Bach ym Mhontarddulais a Melin Mynach yng Ngorseinon.

    Mae cyfleuster beicio bach hefyd wedi’i gynllunio ar gyfer Blaen-y-maes, yn ogystal â llwybr pwmpio yn Llandeilo Ferwallt ac adnewyddu’r trac pwmpio yn Nyffryn Clun.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.