Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Ceredigion yn ehangu ar y cymorth ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty a gofal cymunedol
    Yn Gymraeg

    Ceredigion yn ehangu ar y cymorth ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty a gofal cymunedol

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 29, 2025Updated:October 29, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Bronglais Hospital (Adobe Stock)
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae Tîm Porth Gofal Cyngor Sir Ceredigion yn cael ei ehangu i leihau oedi i breswylwyr sy’n barod i adael yr ysbyty ond sydd angen cymorth gofal.

    Mae’r Cyngor wedi sicrhau £726,503 mewn cyllid rheolaidd o Gronfa Trawsnewid Llwybrau Gofal Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ddefnyddio i recriwtio staff gofal cymdeithasol ychwanegol a chryfhau gwasanaethau sy’n cefnogi rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn amserol, osgoi derbyniadau i’r ysbyty a byw’n annibynnol gartref.

    Bydd y rolau newydd yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, cydlynwyr, a chynorthwywyr gofal, a bydd rhai ohonynt wedi’u lleoli’n uniongyrchol mewn lleoliadau ysbyty ym Mronglais (Aberystwyth) a Glangwili (Caerfyrddin). Bydd y staff hyn yn helpu i gydlynu asesiadau cymhleth, darparu cynllunio a chymorth rhyddhau, a sicrhau bod pecynnau gofal ar waith ar gyfer cleifion sy’n feddygol addas i adael yr ysbyty.

    Mae’r cyllid hefyd yn galluogi’r Cyngor i wneud y canlynol:

    • Ehangu a Galluogi Gofal drwy Dechnoleg (TEC) , gan gynnwys 100 o asesiadau a gomisiynwyd trwy “Just Checking”.
    • Cynyddu capasiti galluogi i leihau dibyniaeth ar ofal a chefnogi annibyniaeth.
    • Datblygu rôl yr Asesydd Dibynadwy i symleiddio darpariaeth offer a phecynnau gofal lefel isel.
    • Cynnig ystod o gymelliadau a thaliadau cadw i wneud y mwyaf o becynnau gyda Darparwyr Gofal Cartref.
    • Uwchsgilio gofalwyr uwch ac arweinwyr tîm i wella llif y gwasanaeth a lleihau oedi.

    Mae Ceredigion hefyd yn buddsoddi mewn mesurau ataliol, er enghraifft gwell cymorth therapi galwedigaethol a gwell mynediad at gyngor drwy Ganolfan Byw’n Annibynnol Penmorfa yn Aberaeron, gan helpu i leihau derbyniadau i’r ysbyty a gwella canlyniadau i breswylwyr.

    Mae dull y Cyngor yn hyrwyddo fframwaith cydgysylltiedig rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gyda staff ysbyty yn hwyluso trafodaethau cynnar, yn tywys teuluoedd trwy brosesau rhyddhau, ac yn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau cymhleth.

    Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Ceredigion dros Gydol Oes a Llesiant: “Mae’r cyllid hwn yn ein galluogi i wneud cynnydd gwirioneddol o ran mynd i’r afael ag oedi wrth ryddhau o’r ysbyty a gwella gofal cymunedol. Trwy ymgorffori gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol o fewn timau ysbytai a buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol, rydym yn adeiladu system fwy ymatebol a gwydn sy’n rhoi annibyniaeth a lles pobl yn gyntaf.”

    Mae’r Gronfa Trawsnewid Llwybrau Gofal yn rhan o fenter flynyddol gwerth £30 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gofal cymdeithasol cymunedol ledled Cymru.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.