Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Ar y dydd a fyddai’n ganfed pen-blwydd Richard Burton [10 Tachwedd 2025], datgelwyd Placiau Glas yn ei fan geni a chyn-gartref ei fentor a’i dad mabwysiedig, Philip Burton.
Cafodd Plac Glas Richard ei ddatgelu gan ei ferch a’i wyres, Kate a Charlotte Burton, gan gydnabod yn ffurfiol waddol yr actor eiconig mewn seremoni a fynychwyd gan ei deulu, edmygwyr, a’r gymuned leol.
Ar ôl cael ei ‘ddarganfod’ gan ei athro Philip Burton, a’i mabwysiadodd er mwyn gwella’i gyfle o gael ei dderbyn i Rydychen, aeth gyrfa Richard ag ef o Stratford-upon-Avon fel prif actor yn nramâu Shakespeare i West End Llundain, ac ymlaen wedyn i Hollywood a Broadway.
Drwy gydol ei yrfa, benthycodd Burton ei lais i sawl recordiad o fri, gan gynnwys gwaith ei arwr Dylan Thomas, Under Milk Wood, ac albwm aml-blatinwm ei gyfoeswr o gyfansoddwr Jeff Wayne, The War of The Worlds, a werthodd filiynau o gopïau.
Wrth iddo serennu mewn ffilmiau Hollywood enfawr gan gynnwys Cleopatra, The Spy Who Came In From The Cold, a Who’s Afraid of Viriginia Woolf?wnaeth Burton erioed anghofio’i wreiddiau Cymreig, a byddai’n dychwelyd adref i Gymru’n aml.
Cefnogwyd gyrfa Richard gan ei dad mabwysiedig Philip Burton, a fu hefyd yn gyfrannwr o bwys i’r celfyddydau yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac a dderbyniodd Blac Glas yn ei hawl ei hunan. Daeth Philip Burton yn gynhyrchydd radio a chyfarwyddwr theatr, gan weithio ledled Prydain ac America, ble helpodd sefydlu’r American Musical and Dramatic Academy yn Efrog Newydd.
Mae’r Placiau Glas yn cydnabod a dathlu cyfraniadau anhygoel y ddau ddyn i’r celfyddydau yng Nghymru, ac ar yr un pryd yn tynnu sylw at bwysigrwydd mentora a chefnogi perfformwyr ifanc ar eu prifiant.
Cyflwynwyd yr ymgyrch ar gyfer gosod y Placiau Glas fel rhan o strategaeth dreftadaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a derbyniodd gefnogaeth y gymuned leol.
Yn ôl Charlotte Burton, wyres Richard Burton: “Mae’r Placiau Glas yn anrhydedd i waddol fy nhad-cu. Fel teulu, rydyn ni’n ei weld yn beth hynod dwymgalon ei fod yn dal i fod mor werthfawr gan y gymuned leol a’i magodd e. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y Placiau Glas, a’r straeon sydd y tu ôl iddyn nhw, yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o berfformwyr ac actorion.”
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae’r Placiau Glas yn cydnabod a dathlu dau ddyn sy’n greiddiol i’n hanes yng Nghastell-nedd Port Talbot. Aeth y ddau ymlaen i ennill clod rhyngwladol, ond fe wnaeth y ddau aros yn driw i’w gwreiddiau Cymreig, a chynrychioli’r math o ruddin, angerdd ac ysbryd cymunedol yr ydyn ni mor falch ohono yn y rhanbarth hwn.
“Dywedodd Burton un tro fod ei lais wedi’i gyfoethogi gan ‘lo mân a glaw neu rywbeth – y llais yw llais fy mhobl’. Rydyn ni wir yn teimlo mai ef yw llais Cymru, ac mai ef oedd yr anadl einioes a daniodd fflam creadigrwydd a pherfformio. Ein braint ni yw cael dathlu gwaddol Burton ym mlwyddyn ei Ganmlwyddiant, a gobeithio y bydd yn ysbrydoli mwy o bobl i ymweld â Chastell-nedd Port Talbot ac ymwneud â’r celfyddydau ledled Cymru.”
Yn dilyn datgelu’r Plac Glas ar 10 Tachwedd, bydd cyfres o ddigwyddiadau dathlu’r Canmlwyddiant yn parhau. Cynhelir darlleniadau barddoniaeth a drama yn Llundain a Phort Talbot ar 10 Tachwedd; bydd Charlotte Burton yn cyflwyno darlith yn Archifau Richard Burton ‘How to Build a Richard Burton’ ar 12 Tachwedd, a bydd taith gerdded dywys rad ac am ddim yn dilyn Llwybrau Richard Burton ar 21 Tachwedd.
Fel rhan o ddathliadau’r Canmlwyddiant, mae’r British Film Institute (BFI) wedi cyhoeddi’i rhaglen ar gyfer mis Rhagfyr yn ddiweddar, fydd yn cynnwys ‘Richard Burton: Muse of Fire’. Dan ofal James Bell, Jo Bottling a Simon McCallum o Archif Genedlaethol BFI, mae’r rhaglen yn digwydd rhwng 2-30 Rhagfyr yn BFI Southbank, Llundain, ac mae’n cynnwys trafodaethau panel craff, dangosiadau ffilm sy’n dathlu ystod Burton a’i ddawn afaelgar, a theyrngedau personol gan aelodau o deulu Burton.
Ymhellach mae Gala Ganmlwyddiant Richard Burton – gyda pherfformiadau gan Michael Sheen, y cyfansoddwr Jeff Wayne, Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg a’r actor Nansi Adams – yn digwydd yn yr Orendy ym Mharc Gwledig Margam ar 14 Tachwedd ar gyfer noson o theatr a cherdd sydd wedi gwerthu pob tocyn.
Bydd uchafbwynt dathliadau’r Canmlwyddiant yn digwydd yng Nghaffi Capel Bethel, pan fydd yr actor arobryn o Gymru Matthew Rhys yn dychwelyd i lwyfan Cymreig am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd i berfformio Playing Burton gerbron cynulleidfa wadd o blith y gymuned leol a chynrychiolwyr byd celfyddydol Cymru. Cyflwynir y sioe un dyn gan Welsh National Theatre, a sefydlwyd yn 2025 gan Michael Sheen.
