Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Cyd-fenter fawr i ddod â swyddi a buddsoddiad newydd i Ferthyr Tudful
    Yn Gymraeg

    Cyd-fenter fawr i ddod â swyddi a buddsoddiad newydd i Ferthyr Tudful

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 5, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: WSP
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fenter ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i ddatblygu safle cyflogaeth 19 erw.

    Bydd y cytundeb yn cynnig seilwaith er mwyn adeiladu lleiniau sy’n barod am fuddsoddiad yn Goat Mill Road, ym Merthyr Tudful. Dydy’r safle ddim wedi cael ei ddatblygu ers cynnal gwaith adfer yn ail hanner yr 1990au.

    Bydd y cynllun yn elwa o fwy na £4.5m o gyllid Llywodraeth Cymru , ochr yn ochr â buddsoddiad o £5.1m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

    Bydd y gwaith galluogi yn creu swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a’r cyfnod meddiant, pan fydd gwaith adeiladu’n digwydd ar y lleiniau .

    Bydd y buddsoddiad yn manteisio ar welliannau a gwblhawyd yn ddiweddar i’r A465 gerllaw ac yn cyd-fynd â phrosiectau a wnaed yn rhan o raglen Cymoedd Technoleg.

    Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

    “Mae mannau busnes o ansawdd uchel â chysylltedd da yn hanfodol ar gyfer ehangu a chreu swyddi.

    “Bydd y prosiect pwysig hwn yn cyflymu argaeledd lleiniau sy’n barod am fuddsoddiad ar y safle hwn ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl yn y cymunedau cyfagos, gan ein helpu i gyflawni ein blaenoriaeth o dyfu’r economi ym mhob rhan o Gymru.”

    Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn buddsoddi’r cyllid trwy Fenter y Cymoedd Gogleddol.

    Dywedodd Mike Brough, Y Cyfarwyddwr Strategol dros Dwf Rhanbarthol yn Ninas-Ranbarth Caerdydd:

    “Adfer a datblygu tir gwerthfawr fel hwn ar gyfer twf cynaliadwy yw hanfod gwaith Menter Cymoedd Gogleddol Dinas-Ranbarth Caerdydd ac rydym wrth ein bodd cael ei gyd-ariannu gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol ym Merthyr Tudful. Mae’n tîm yn disgwyl ymlaen at gydweithio ar hwn dros y blynyddoedd nesaf, i sbarduno twf economaidd a chreu swyddi ym Merthyr Tudful.”

    Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:

    “Mae Merthyr Tudful yn prysur ddatblygu’n lle y mae pobl am fuddsoddi ynddo a dod â’u busnesau iddo. Mae hynny’n rhannol oherwydd ein lleoliad strategol; rydyn ni mewn lle perffaith, yng nghanol y cymoedd gyda chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol â phob rhan o’r De.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.