Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Cyfraddau canfod canser y coluddyn wedi dyblu ers gostwng yr oedran sgrinio
    Yn Gymraeg

    Cyfraddau canfod canser y coluddyn wedi dyblu ers gostwng yr oedran sgrinio

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 30, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: Canva/Stock
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae gostwng yr oedran sgrinio yng Nghymru o 60 oed i 50 oed yn ystod y pedair blynedd diwethaf wedi helpu i ddyblu nifer yr achosion o ganser y coluddyn sy’n cael eu canfod yng Nghymru.

    Mae sgrinio yn helpu i wneud diagnosis yn gynt, ac ar adeg pan fo’r cyflwr yn haws i’w drin.

    Ers cyflwyno ehangu’r oedran yn 2021, mae cyfraddau diagnosis o ganser y coluddyn wedi cynyddu yn y rhaglen sgrinio o 211 yn 2020-21 i 457 yn 2023-24.  Mae gwahoddiadau blynyddol ar gyfer sgrinio wedi cynyddu o 223,000 i fwy na 500,000.

    Canser y coluddyn yw un o’r mathau mwyaf cyffredin o ganser, ac mae mwy na 2,000 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru.

    Ond pan gaiff ei ganfod yn gynnar, mae modd trin y canser a’i wella, ac mae’r siawns o oroesi yn cynyddu’n sylweddol.

    Mae gwasanaeth sgrinio’r coluddyn bellach yn cael ei gynnig i bawb rhwng 50 a 74 oed sydd wedi’u cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru. Ers mis Hydref y llynedd, mae unigolion cymwys yn cael pecyn profi yn awtomatig drwy’r post pan fyddant yn 50 oed, a bob dwy flynedd ar ôl hynny.

    Gall sgrinio helpu i ganfod canser y coluddyn cyn i’r symptomau ddechrau. Gall hefyd ganfod polypau, sef tyfiannau nad ydynt yn ganser, ac yna gellir tynnu’r rhain ac atal canser rhag datblygu yn y lle cyntaf.

    Mae’r broses sgrinio yn cynnwys prawf imiwnocemegol ar ysgarthion sy’n hawdd ei ddefnyddio ac sy’n fwy sensitif. Gall ganfod canser y coluddyn yn well, gan helpu i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar brawf sgrinio ymhlith dynion a menywod rhwng 50 a 74 oed.

    Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

    “Mae atal a thrin canser yn ymrwymiad hirdymor inni ac mae canfod yn gynnar yn hanfodol i wella canlyniadau canser.

    “Flwyddyn ers gostwng yr oedran sgrinio i 50, mae’r canlyniadau hyn yn dweud y cyfan. Mae canfod canser yn gynnar o fudd mawr i’n gwasanaeth iechyd ac mae’n gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw i’r unigolyn. Felly, rwy’n annog pawb sy’n 50 oed neu’n hŷn i fanteisio i’r eithaf ar y rhaglen.

    “Rydyn ni hefyd yn buddsoddi’n sylweddol ac yn gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd i sicrhau bod ganddo’r gallu i ymchwilio i fwy o achosion o ganser a’u trin yn y tymor hir.”

    Dywedodd Steve Court, Pennaeth Rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru:

    “Mae gostwng yr oedran sgrinio wedi bod yn gam mawr ymlaen yn y frwydr yn erbyn canser y coluddyn yng Nghymru. Mae mwy o bobl nag erioed yn manteisio ar y pecyn profi gartref ac mae mwy o achosion o ganser yn cael eu canfod o ganlyniad. Mae hyn yn golygu y bydd bywydau’n cael eu hachub. Mae 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ddal yn gynnar.

    “Rwyf i wir yn annog pobl gymwys i ddefnyddio’r pecyn profi pan fyddan nhw’n ei gael drwy’r post. Mae’n rhad ac am ddim, yn hawdd i’w ddefnyddio a gallai achub eich bywyd.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.