Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Cyfyngiadau symud ar wartheg yng Nghymru i reoli TB yn well
    Yn Gymraeg

    Cyfyngiadau symud ar wartheg yng Nghymru i reoli TB yn well

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 27, 2025Updated:October 28, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Huw Irranca-Davies
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Bydd teuluoedd ffermio Cymru yn elwa wrth i fesurau cryfach i reoli TB ddod i rym o Ionawr 2026 a fydd yn gosod cyfyngiadau symud am oes ar wartheg sydd wedi cael canlyniad amhendant i brawf.

    Yn dilyn cais gan y diwydiant a chyngor arbenigol annibynnol wedi hynny, cyhoeddwyd y bydd polisïau ar wartheg sy’n cael Adwaith Amhendant (IRs) yn newid.

    Bydd gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant i brawf TB trwy ddehongliad safonol sydd wedyn yn cael ail brawf clir o 1 Ionawr 2026 ymlaen yn gorfod aros am eu hoes ar eu daliad gwreiddiol. Mae tystiolaeth wyddonol yn dangos bod yr anifeiliaid hyn 3 gwaith yn fwy tebygol o gael adwaith i brawf TB na gwartheg sy’n cael prawf clir.

    Y ffenestr brofi arferol ar gyfer ail brawf IRs yw rhwng 60 a 90 diwrnod.  Felly, mae’n bosibl y bydd yr IRs gaiff eu datgelu ar ôl 1 Tachwedd ac na fydd wedi cael eu hail brawf tan ar ôl 1 Ionawr 2026 yn dod o dan y rheolau newydd. Dim ond yn syth i ladd-dy neu gyda thrwydded i Uned Besgi Gymeradwy trwy ganolfan gasglu neu arwerthiant TB penodedig y cewch symud y gwartheg hyn.

    Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: “Gofynnodd y diwydiant, ac rydyn ni wedi gwrando. Mae tystiolaeth yn dangos bod y gwartheg IR safonol hyn yn risg uwch gan fod cyfran fwy ohonyn nhw’n cael adwaith i brawf TB wedi hynny. Mae perygl felly y gall gwartheg sydd â’r haint heb ei ganfod arnyn nhw gael eu symud a lledaenu TB i fuchesi eraill.

    “Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda’r Grŵp Cynghori Technegol (TAG) a Bwrdd y Rhaglen i wneud newidiadau go iawn fydd yn ein helpu i ddelio â’r clefyd a chefnogi ffermwyr trwy gyfnodau anodd.”

    Mae’r newid hwn yn mynd i’r afael â phryderon y diwydiant am ledaenu TB rhwng buchesi. O dan yr hen drefn, roedd IRs safonol yn cael symud yn rhydd ar ôl ail brawf negyddol, gan drosglwyddo haint heb ei ganfod i fuchesi glân.

    Mae partneriaeth gref yn cryfhau’r mesurau rheoli TB yn Sir Benfro hefyd, lle mae milfeddygon a ffermwyr yn cael eu grymuso trwy ddarparu data ac addysg i helpu i reoli TB ar eu ffermydd.    Mae Michael Williams o Fferm Fagwrfran yn Sir Benfro yn croesawu’r newid: “Yn sgil cymryd rhan ym Mhrosiect Sir Benfro, rydyn ni wedi dysgu llawer iawn am TB ac anifeiliaid risg uchel a deall y pwnc yn well. Rydyn ni’n deall y risg y mae adweithyddion amhendant yn eu creu a’r potensial iddynt gael eu heintio a dod yn gronfa ar gyfer yr haint. Rydyn ni’n croesawu’r penderfyniad i gyfyngu ar symudiadau’r anifeiliaid hyn a gobeithio y bydd yn help i atal lledaeniad y clefyd o fferm i fferm.”

    Gan adeiladu ar yr egwyddorion a’r arferion gorau a sefydlwyd yn Sir Benfro, mae menter debyg yn cael ei chynnal nawr yn yr ardal TB isel y Gogledd.   Meddai Paul Williams, o Gae Haidd, Conwy: “Gan adeiladu ar y gwaith rhagorol y mae ein ffrindiau yn Sir Benfro wedi’i wneud, ein nod yma yn y Gogledd yw cadw TB draw o gymaint o’n hardal â phosibl. Bydd meddwl y tu allan i’r bocs a defnyddio technegau a data arloesol, a gweithio â milfeddygon lleol, yn allweddol i wireddu, gobeithio, ein prif nod. Mae’r newidiadau sydd ar fin digwydd i’r cyfyngiadau ar symud gwartheg sydd yn rhai risg uchel yn ffordd ddoeth ymlaen, a bydd yn lleihau’r risg o gyflwyno’r clefyd dinistriol hwn i’n ffermydd.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.