Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Cyngor Caerffili yn cynyddu ymdrechion i wella ailgylchu
    Yn Gymraeg

    Cyngor Caerffili yn cynyddu ymdrechion i wella ailgylchu

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 28, 2025Updated:October 28, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: Caerphilly Council
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynyddu ei ymdrechion i wella cyfraddau ailgylchu.

    Yn ystod cyfarfod o’r Cabinet, a gafodd ei gynnal ym mis Mai 2025, fe wnaeth y Cyngor gytuno i ehangu’r defnydd o adran 46 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Bydd yr ehangiad hwn bellach yn cynnwys achosion o roi deunyddiau ailgylchadwy mewn biniau gwastraff cyffredinol.

    Mae’r Cyngor eisoes yn defnyddio’r ddeddfwriaeth hon i fynd i’r afael â chamddefnyddio cynwysyddion ailgylchu. Mae’r dull hwn wedi helpu gwella ymwybyddiaeth trigolion o’r hyn y mae modd ei ailgylchu wrth ymyl y ffordd. Ers i’r broses addysgu ac ymgysylltu ynghylch ailgylchu ddechrau ym mis Chwefror 2024, mae dros 30,000 o achosion o halogi wedi’u nodi, ac mae tîm Cynghorwyr Ailgylchu y Cyngor wedi cynnal mwy na 3,000 o ymweliadau â chartrefi. Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond 28 o hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi’u rhoi, sy’n dangos bod y Cyngor yn canolbwyntio ar addysgu yn hytrach na gorfodi.

    Mae’r broses yn cynnwys cyfres o lythyrau ac ymweliadau â chartrefi, sydd â’r nod o roi gwybod i drigolion a’u cynorthwyo nhw. Dim ond ar ôl rhoi cynnig ar yr holl ymdrechion ymgysylltu y mae camau cyfreithiol yn cael eu cymryd.

    Bydd yr un broses bellach yn cael ei dilyn yn achos biniau gwastraff cyffredinol, i helpu lleihau faint o ddeunyddiau ailgylchadwy sy’n cael eu taflu. Y nod yw sicrhau bod yr eitemau hyn yn cael eu hanfon i’r cyfleusterau ailgylchu cywir.

    Ar hyn o bryd, mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn methu cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru. Mae faint o wastraff cyffredinol y mae’n ei gynhyrchu ymhlith yr uchaf yng Nghymru – 410kg fesul cartref, o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 360kg. Mae’r camau newydd hyn bellach yn hanfodol i wella’r perfformiad ailgylchu, gwarchod yr amgylchedd ac osgoi dirwyon posibl.

    Mae 59% o’r hyn sydd mewn biniau gwyrdd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ailgylchadwy – gyda 31% o hynny yn wastraff bwyd. Felly, nod y fenter hon yw annog gwell arferion o ran gwastraff a helpu trigolion i reoli eu gwastraff mewn modd mwy cynaliadwy.

    Dywedodd Clive Campbell, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Isadeiledd a Gwastraff, “Mae dadansoddiad diweddar yn dangos y gallai 59% o’r gwastraff yn ein biniau gwyrdd fod wedi cael ei ailgylchu. Mae hyn yn dangos, er bod lefelau cyfranogiad ailgylchu uchel ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, yn anffodus, nid ydyn ni’n ei wneud yn iawn. Diben y broses newydd hon yw helpu rhoi gwybod i drigolion, eu cynorthwyo nhw a rhoi cyngor iddyn nhw, i sicrhau rhoi’r pethau cywir yn y cynwysyddion cywir.

    “Bu canlyniadau gwych yn sgil defnyddio’r dull hwn gyda’n proses ailgylchu. Rydyn ni’n gobeithio y bydd ehangu hyn i gynnwys biniau ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn annog pawb i ddidoli eu gwastraff yn iawn ac i ailgylchu’r hyn y mae modd ei ailgylchu, gan gefnogi’r gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud gan gynifer o bobl yn ein cymuned.

    “Nid yw rhoi dirwy byth yn ddewis cyntaf. Ond, mewn achosion lle mae trigolion yn anwybyddu rheolau ailgylchu dro ar ôl tro, er gwaethaf cael cymorth ac arweiniad, mae’n rhaid i ni weithredu.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.