Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Senedd 2026
    • Cardiff
    • Swansea
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Cynllun newydd i adfer cartrefi gwag i’w hailddefnyddio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
    Yn Gymraeg

    Cynllun newydd i adfer cartrefi gwag i’w hailddefnyddio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 24, 2025Updated:October 28, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Cynllun newydd i adfer cartrefi gwag i’w hailddefnyddio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi amlinellu Strategaeth Cartrefi Gwag newydd i leihau nifer yr eiddo preswyl sydd wedi bod yn wag ers amser hir a’u hadfer i’w hailddefnyddio.

    Mae’r strategaeth ar gyfer 2025-2030 bellach wedi’i chymeradwyo gan Gabinet y Cyngor ac fe’i lluniwyd trwy ymgynghoriad cyhoeddus gyda mewnbwn gan breswylwyr, landlordiaid a pherchnogion eiddo.

    Mae’n adeiladu ar y cynnydd a wnaed o dan y cynllun blaenorol ac yn canolbwyntio ar ymgysylltu cynnar, cymorth ariannol a gorfodi cryfach. Mae hefyd yn cynnwys Cynllun Gweithredu Eiddo Gwag manwl, sy’n sicrhau cyflawniad trwy ddull cydlynol ar draws adrannau’r Cyngor a phartneriaid allanol.

    Mae’r strategaeth hefyd yn cyfrannu at nodau ehangach y Cyngor, gan gynnwys cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, mynd i’r afael â digartrefedd, adfywio canol trefi a chefnogi gweithredu ar yr hinsawdd trwy ailddefnyddio adeiladau presennol a gwella eu hynni-effeithlonrwydd.

    Bydd cynnydd yn cael ei fonitro trwy adolygiadau blynyddol, gydag asesiad llawn wedi’i gynllunio ar gyfer 2030 i sicrhau bod y strategaeth yn parhau i fod yn effeithiol ac yn ymatebol i anghenion lleol.

    “Mae’r strategaeth newydd hon yn amlinellu cynllun clir i adfer mwy o gartrefi i’w hailddefnyddio, cefnogi adfywio a gwneud y defnydd gorau o’n tai presennol. Mae hefyd yn cefnogi ein nodau hinsawdd trwy hyrwyddo ailddefnyddio adeiladau a gwella ynni-effeithlonrwydd. “Mae cynnydd cyson wedi’i wneud gyda mwy na 230 o gartrefi gwag wedi’u hadfer i’w hailddefnyddio ers 2021/22 ac yn 2024/25 yn unig cynhaliwyd dros 300 o ymweliadau safle, cyhoeddwyd 16 o hysbysiadau gorfodi a chwblhawyd 3 erlyniad. “Byddwn yn annog unrhyw un sy’n berchen ar eiddo preswyl gwag i wneud y gorau o’r cyfleoedd a’r cymorth sydd ar gael i helpu i adfer eu heiddo i’w ailddefnyddio.”

    Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai
    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Dathlu llwyddiant dysgwyr Cymraeg ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

    May 23, 2026

    Bydd Llanidloes yn cynnal Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2027

    May 1, 2026

    Arolwg newydd yn dangos Reform UK ychydig ar y blaen i Blaid Cymru yn etholiad y Senedd

    April 29, 2026

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Dathlu llwyddiant dysgwyr Cymraeg ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

    May 23, 2026

    Bydd Llanidloes yn cynnal Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2027

    May 1, 2026

    Arolwg newydd yn dangos Reform UK ychydig ar y blaen i Blaid Cymru yn etholiad y Senedd

    April 29, 2026

    Dathliadau’r haf i nodi 850 mlynedd o draddodiad yr Eisteddfod

    March 3, 2026

    Mae cynllun pontio athrawon Cymraeg yn gwahodd ceisiadau newydd

    February 10, 2026

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.