Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Cynllun newydd wedi’i ddatgelu i gyflymu taith GIG Cymru tuag at sero net
    Yn Gymraeg

    Cynllun newydd wedi’i ddatgelu i gyflymu taith GIG Cymru tuag at sero net

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 7, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    NHS Wales (Adobe Stock)
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae cynlluniau uchelgeisiol i helpu GIG Cymru i leihau ei allyriadau yn gyflymach er mwyn gwneud y system iechyd a gofal yn fwy cynaliadwy yn cael eu cyhoeddi heddiw.

    Mae sefydliadau’r GIG eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol, gan leihau allyriadau o ffynonellau nad ydynt yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys adeiladau a thrafnidiaeth, bron i chwarter rhwng 2018-19 a 2024.

    Ond er gwaethaf y gwelliant hwn, mae allyriadau cyffredinol GIG Cymru wedi cynyddu yn ystod yr un cyfnod, yn bennaf o ganlyniad i allyriadau sy’n cael eu priodoli i gadwyn gyflenwi fawr y gwasanaeth iechyd.

    Mae Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru wedi’i adnewyddu, a gyhoeddir yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, yn nodi map trywydd clir i’r GIG gyflawni ei uchelgeisiau hinsawdd a chyflawni’r targed cyfreithiol Sero Net 2050.

    Bydd y cynllun yn helpu sefydliadau GIG Cymru i wneud y canlynol:

    • Cynyddu effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni adnewyddadwy
    • Hyrwyddo teithio mwy cynaliadwy gan staff a chleifion
    • Gweithio gyda chyflenwyr i leihau’r effaith amgylcheddol
    • Cyflawni cynaliadwyedd amgylcheddol
    • Lleihau gwastraff
    • Gweithio mor gynaliadwy â phosibl.

    Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydyn ni’n ymdrechu i greu system iechyd fwy cynaliadwy a fydd yn lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd ac yn sicrhau manteision ehangach i iechyd y cyhoedd.

    “Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Gall y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru chwarae ei ran drwy gymryd camau syml, megis lleihau gwastraff, arbed ynni a gweithio mor gynaliadwy â phosibl, gan hefyd ganolbwyntio ar ddarparu gofal o ansawdd uchel.

    “Bydd gwella cynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol y Gwasanaeth Iechyd yn helpu’r sector cyhoeddus a Chymru i leihau ein hôl troed carbon a chyflawni ein hymrwymiadau Sero Net erbyn 2050.”

    Mae nifer o brosiectau cynaliadwyedd arloesol wedi rhoi hwb i ymdrechion i leihau allyriadau carbon yn GIG Cymru.

    Mae mentrau cynaliadwyedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn arwain yr ymgyrch mewn unedau gofal dwys – gan hyrwyddo’r ddau nod o wella gofal cleifion a lleihau gwastraff ariannol ac amgylcheddol.

    Enillodd y Tîm ICU Gwyrdd wobr Cymru sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang yng Ngwobrau Cynaliadwyedd Cymru y GIG ac mae gwaith y tîm wedi’i gynnwys mewn canllawiau ymarferol a gynlluniwyd i helpu unedau gofal dwys i leihau eu hôl troed carbon.

    Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r tîm wedi lleihau gwastraff plastig yn yr uned gofal dwys tua 2 tunnell y flwyddyn, gan arbed degau o filoedd o bunnoedd. Nod yr ymgyrch Menig i Ffwrdd yw lleihau faint o fenig nad ydynt yn ddi-haint sy’n cael eu gwisgo.

    Mae’r ymgyrch ar y trywydd iawn i arbed tua £15,000 eleni ynghyd ag arbed defnyddio plastig sydd gyfwerth â thua 490,000 o fenig (neu tua 30 pâr o fenig fesul claf y dydd) ym maes gofal critigol.

    Mae cynlluniau eraill yn cynnwys ailgylchu poteli a ddefnyddir i fwydo cleifion, cynnig dŵr tap yfed yn lle dŵr di-haint i gleifion a gosod goleuadau LED.

    Jack Parry-Jones, ymgynghorydd mewn meddygaeth gofal dwys i oedolion a chyn-gadeirydd y Tîm ICU Gwyrdd, a oedd yn arwain nifer o’r mentrau.

    Dywedodd: “Rydyn ni’n ceisio diogelu byd, a Chymru sy’n werth goroesi amdani a byw ynddi. Ein mantra mabwysiedig yw pobl, y blaned ac elw.

    “Pobl – gofal ardderchog i’n cleifion, eu perthnasau a’n staff. Y blaned – amgylchedd glân yng Nghymru gyda bioamrywiaeth wedi’i ddiogelu. Ac elw – darparu gofal iechyd darbodus sy’n seiliedig ar werthoedd.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.