Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Dros 1,500 o bobl yn trawsnewid eu hiechyd drwy gynllun ffitrwydd pêl-droed Cymreig
    Yn Gymraeg

    Dros 1,500 o bobl yn trawsnewid eu hiechyd drwy gynllun ffitrwydd pêl-droed Cymreig

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 10, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Fit Fans circuits class at Swansea City Footbal Club
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae mwy na 1,500 o bobl wedi trawsnewid eu hiechyd yn sgil menter bêl-droed a ariennir gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â gordewdra ac anweithgarwch.

    Mae’r rhaglen FIT FANS yn cael ei chynnal mewn pum clwb pêl-droed yng Nghymru, sef Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd, Clwb Pêl-droed y Drenewydd, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.

    Mae’r cwrs 12 wythnos wedi cyflawni canlyniadau rhyfeddol, gan wella llesiant corfforol a meddyliol y rhai sy’n cymryd rhan.

    Wedi’i gyflwyno gan gangen elusennol EFL, sef EFL in the Community, mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, mae’r rhai sydd ar y cwrs yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarfer corff a dosbarthiadau i wella eu harferion bwyta.

    Mae’r rhaglen yn defnyddio pêl-droed i gyrraedd y rhai sy’n wynebu mwy o risg o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol, nad ydyn nhw efallai’n teimlo’n gyfforddus i geisio cymorth gan eu meddyg teulu.

    Ar gyfartaledd, mae’r dynion sydd wedi cymryd rhan wedi colli 3.7kg o bwysau ac mae’r menywod wedi colli 2.8kg o bwysau.

    Mae FIT JACKS, dan arweiniad Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, wedi helpu 267 o bobl mewn 234 o sesiynau mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y ddinas ers mis Chwefror.

    Cofrestrodd Michael Kelleher â Fit Jacks y llynedd. Dywedodd:

    “Pan ddechreuais i Fit Jacks, roeddwn i’n dioddef o apnoea cwsg, diabetes math 2, pwysedd gwaed uchel a sawl problem feddygol arall a oedd yn achosi problemau difrifol imi.

    “Erbyn imi raddio ym mis Ionawr, roeddwn i wedi colli 10kg, wedi cael gwared â’r apnoea cwsg ac wedi gwella fy rheolaeth ar ddiabetes. Erbyn hyn, dw i ddim angen cymryd unrhyw feddyginiaeth a dw i hefyd wedi dechrau rhedeg. Mae’n rhaglen ryfeddol y bydda i’n ddyledus iddi am byth.”

    Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver:

    “Gan ddefnyddio pŵer pêl-droed i ennyn diddordeb cymunedau, mae FIT FANS wedi helpu nifer sylweddol o bobl i leihau eu risg o ddatblygu cyflyrau difrifol fel diabetes a chlefyd y galon.

    “Mae’n wych gweld y cysylltiadau cymdeithasol sydd wedi’u ffurfio drwy’r rhaglen, gan greu cymunedau cefnogol sy’n cyfrannu at lesiant corfforol a meddyliol.

    “Mae’r rhaglen hon yn ymwneud ag atal salwch cyn iddo ddechrau, gan dynnu pwysau oddi ar ein gwasanaeth iechyd, a helpu pobl i fyw bywydau hirach ac iachach.”

    Dywedodd Debbie Cook, Cyfarwyddwr Cymunedol EFL in the Community:

    “Mae iechyd a llesiant pobl yn ein cymunedau pêl-droed yn hynod o bwysig inni. Ar draws ein rhwydwaith, rydyn ni’n gweithio’n galed i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Yr elfen allweddol o FIT FANS yw bod pêl-droed yn dod â phobl at ei gilydd ac yn rhoi cyfle iddyn nhw gwrdd â phobl tebyg iddyn nhw. Maen nhw’n annog ac yn rhoi hyder i’w gilydd. Mae’r gefnogaeth a’r datrysiadau y maen nhw’n eu rhoi i’w gilydd yn allweddol i sicrhau bod newid yn para.”

    Amcangyfrifir bod 62% o boblogaeth Cymru dros eu pwysau neu’n ordew. Mae’r cynllun yn helpu unigolion i wneud newidiadau parhaol o ran eu ffordd o fyw.

    Mae llwyddiant y rhaglen wedi parhau y tu hwnt i 12 wythnos y cynllun. Mae rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid yn cael eu sefydlu ac mae grwpiau WhatsApp yn helpu’r rhai a oedd yn rhan o’r rhaglen i gynnal eu harferion iach a pharhau â’u teithiau ffitrwydd gyda’i gilydd.

    Mae’r rhaglen hefyd wedi sicrhau buddion sylweddol o ran llesiant meddyliol, gan nodi cynnydd mewn boddhad â bywyd a gostyngiad mewn lefelau gorbryder.

    Mae hwb ariannol gwerth £200,000 gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni wedi helpu rhagor o bobl i fanteisio ar y rhaglen ledled Cymru.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.