Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Fferyllfeydd yn Camu i Fyny i Leihau’r Pwysau ar y GIG y Gaeaf Hwn
    Yn Gymraeg

    Fferyllfeydd yn Camu i Fyny i Leihau’r Pwysau ar y GIG y Gaeaf Hwn

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 1, 2025Updated:November 3, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    (Adobe Stock)
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae’r ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi, sy’n cael ei lansio heddiw (dydd Sadwrn 1 Tachwedd), yn darparu gwybodaeth i sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir ar gyfer eu hanghenion iechyd, yn y lle iawn, y tro cyntaf.

    Mae’r ymgyrch yn cynnwys hysbysebion ar y teledu a’r radio, ac yn y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n hyrwyddo fferyllfeydd cymunedol sy’n gallu darparu cyngor a thriniaeth arbenigol pan fo angen, ar gyfer 28 o anhwylderau cyffredin, heb fod angen cael apwyntiad gyda meddyg teulu.

    Mae fferyllfeydd yn cynnig dewis arall mwy cyfleus ar gyfer trin popeth o beswch ac annwyd i fân anhwylderau a chael cyngor iechyd cyffredinol, yn lle defnyddio meddygfeydd ac adrannau argyfwng yn ystod misoedd prysur y gaeaf. Gall fferyllwyr hefyd roi gwrthfiotigau ar gyfer dolur gwddf a heintiau wrinol.

    Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: “Y gaeaf hwn, gallai un newid bach syml wneud gwahaniaeth enfawr i’n GIG.

    “Os ydych chi’n dioddef o salwch cyffredin fel peswch, annwyd, dolur gwddf, neu fân boenau, gall eich fferyllydd lleol eich helpu.

    “Mae fferyllwyr yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â chymwysterau i lefel uchel iawn, ac maen nhw’n gallu rhoi cyngor a thriniaeth gyfrinachol am amrywiaeth eang o gyflyrau cyffredin. Mae’n ffordd syml a chyfleus o gael help pan fo angen – ac ar yr un pryd mae hyn yn helpu meddygon teulu ac adrannau argyfwng i ganolbwyntio ar y bobl sydd wir angen gofal brys.”

    Gall fferyllfeydd cymunedol helpu gydag amryw o gyflyrau gan gynnwys brech ar y croen, mân boenau, a pheswch ac annwyd. Gallan nhw hefyd roi cyngor ar reoli cyflyrau iechyd hirdymor, a chynnig gwasanaethau ychwanegol fel brechiadau ffliw.

    Mae rhagor o wybodaeth am yr Ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi ar gael yn: llyw.cymru/helpwch-ni-ich-helpu-chi

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.