Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Gwella canllawiau i helpu i wneud llwybrau cerdded, olwyno a beicio yn fwy diogel i fenywod a merched yw un o nodweddion ymgynghoriad sy’n dechrau heddiw.
Mae Canllawiau y Ddeddf Teithio Llesol yn cael eu hadolygu i wella ansawdd cynlluniau cerdded, olwyno a beicio ledled Cymru. Y nod yw sicrhau eu bod ar gael i bawb a’u bod yn addas i bawb eu defnyddio.
Mae’r canllawiau sydd wedi’u diweddaru yn ystyried diogelwch, cysur a gwelededd i fenywod a merched mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys goleuadau, toiledau a chyfleusterau newid, seddi a mesurau gwyliadwriaeth.
Mae hefyd yn ystyried a ddylai dyluniadau sicrhau mwy o wahanu a blaenoriaeth i bobl sy’n cerdded, olwyno neu feicio, gan ystyried pryderon am bobl fwy agored i niwed.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Rwy’n awyddus i sicrhau ei bod yn haws i bawb fanteisio ar drafnidiaeth, ac mae hynny’n cynnwys cerdded, olwyno a beicio. Mae’n bwysig bod barn ac anghenion pob un ohonom yn cael eu hystyried, fel bod pawb yn cael y cyfle i elwa i’r eithaf ar y cynlluniau sydd ar gael.
“Fel rhan o’r ymgynghoriad bydd gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed barn pobl anabl, menywod a phobl ifanc.”
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Dylai pob menyw deimlo’n ddiogel i redeg, cerdded, neu dreulio amser mewn mannau cyhoeddus heb ofn aflonyddu. Ni ddylai menywod newid eu hymddygiad na chyfyngu ar eu bywydau – mae angen i ddynion ystyried eu hymddygiadau eu hunain a mynd i’r afael â nhw, a dyna yw ffocws ein hymgyrch Sain.
“Wrth i ni agosáu at Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, mae’n briodol ein bod yn canolbwyntio ar sut y gallwn wneud pethau’n fwy diogel i fenywod a merched, gan gydnabod bod llwybrau sy’n addas iddyn nhw yn addas i bawb.”
Dywedodd Olivia Browne o Glwb Rhedeg Dydd Sul Caerdydd: ”Mae gan bawb hawl i deimlo’n ddiogel wrth gerdded, beicio neu olwyno yn yr awyr agored, boed yn ystod y dydd neu yn y nos.”
”Yn rhy aml, yn anffodus, mae menywod a merched yn teimlo’n bryderus ynghylch defnyddio mannau cyhoeddus o ganlyniad uniongyrchol i’w profiadau gwirioneddol. Dyma brofiadau y maent yn aml yn cael eu beio amdanynt. Mae hyn yn sicr yn cyfyngu ar eu rhyddid a’u dewisiadau fel dinasyddion.”
“Gall mwy gael ei wneud i sicrhau bod llwybrau teithio yn opsiynau ymarferol i fenywod.”
https://www.llyw.cymru/canllawiaur-ddeddf-teithio-llesol
