Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Grantiau ar agor i helpu cymunedau i wella mannau lleol
    Yn Gymraeg

    Grantiau ar agor i helpu cymunedau i wella mannau lleol

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 20, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: Welsh Government
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Gall grwpiau cymunedol nawr wneud cais am grantiau o hyd at £300,000 i wella adeiladau lleol, sicrhau cyfleusterau gwerthfawr a mannau cymorth lle gall pobl ddod at ei gilydd.

    Ers 2015, mae mwy na £70 miliwn wedi cefnogi bron i 500 o brosiectau cymunedol ledled Cymru. Mae’r cyllid hwn wedi helpu i gadw mannau pwysig ar agor, atgyweirio adeiladau sy’n heneiddio, diweddaru ystafelloedd cymunedol a chynnal cyfleusterau a ddefnyddir ar gyfer cyfarfodydd, gweithgareddau a gwasanaethau lleol.

    Un gymuned sydd wedi elwa o’r gefnogaeth hon yw Llandyrnog yn Sir Ddinbych. Pan oedd Swyddfa’r Post am gau, camodd pobl leol i’w achub ac ailagor siop a chanolfan gymunedol mawr ei hangen. Fe wnaethant dderbyn £200,000 o’r rhaglen, a’u helpodd i brynu’r adeilad a gwneud gwaith adnewyddu hanfodol. Sicrhaodd hyn wasanaeth a fydd yn cefnogi’r pentref am genedlaethau a chreu gofod sy’n parhau i chwarae rôl ymarferol a chymdeithasol ym mywyd bob dydd.

    Dywedodd Cyfarwyddwr Siop Gymunedol Llandyrnog, Ian Wilson: “Roedd gallu achub y siop yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned. Mae’n rhywle i brynu’r hyn sydd ei angen arnoch ar garreg eich drws, ond mae hefyd yn lle y gall bobl ddod at ei gilydd, sgwrsio a chadw mewn cysylltiad. Mae’r cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi ein helpu i gynnal rhan bwysig o fywyd y pentref.”

    Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, â’r safle yn gynharach y mis hwn. Dywedodd: “Roedd ymweld â Llandyrnog yn gyfle gwych i weld sut mae’r gymuned leol wedi gwarchod a gofalu am un o’u hadeiladau mwyaf poblogaidd. Mae’r siop, y swyddfa bost a’r ganolfan yn darparu gwasanaethau hanfodol a lle i bobl gwrdd a chefnogi ei gilydd.

    “Bwriad y cyllid hwn yw rhoi cyfle i gymunedau gynnal, gwella a llunio’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt. Rwy’n annog grwpiau cymunedol ledled Cymru i wneud cais a meddwl yn greadigol am sut y gall eu mannau lleol ddiwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio.”

    Mae dau opsiwn grant ar agor. Gall grantiau llai o hyd at £25,000 gynorthwyo gyda gwelliannau. Gall grantiau mwy o hyd at £300,000 helpu gyda gwaith mawr neu brynu adeilad.

    Anogir grwpiau a arweinir gan y gymuned, gan gynnwys elusennau, sefydliadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol, i wneud cais.

     

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.