Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Mae’r manylion terfynol wrthi’n cael eu trefnu ar gyfer cynnal gwasanaethau a gorymdeithiau Sul y Cofio ynghanol trefi Castell-nedd a Phort Talbot ddydd Sul, 9 Tachwedd, 2025.
Yn ôl y Cynghorydd Wyndham Griffiths, un o Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog dros Gyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae’r gorymdeithiau a’r gwasanaethau blynyddol ar Sul y Cofio a gynhelir gennym yma yng Nghastell-nedd Port Talbot yn coffau’r rheiny a gwympodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chyfnodau diweddarach o ymladd.
“Mae arnom y fath ddyled i aelodau o’n lluoedd arfog a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, er mwyn i ni allu byw ein bywyd ni mewn rhyddid.”
Ychwanegodd ei Gyd-hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Tim Bowen: “Rydyn ni’n talu teyrnged ar yr adeg hon o’r flwyddyn i bawb sydd wedi gwirfoddoli, gwasanaethu, ac ymladd, ac yn enwedig y dynion a’r menywod hynny a wnaeth yr aberth eithaf dros bawb ohonom Byddwn ni’n parhau i’w parchu, eu hanrhydeddu, a’u cofio.”
Isod, gwelir manylion y gwasanaethau a’r gorymdeithiau fydd yn digwydd ynghanol trefi Castell-nedd a Phort Talbot ddydd Sul, 9 Tachwedd, 2025.
PORT TALBOT:
9am Cau heolydd yn dechrau
9.30am Y rheiny sy’n cymryd rhan yn ymgasglu ar gyfer yr Orymdaith yn Hyb Trafnidiaeth Port Talbot
10.40am Yr orymdaith yn cyrraedd Parc Coffa Talbot
10.45am Gwasanaeth Coffa ym Mharc Coffa Talbot
11.20am Yr orymdaith yn ôl i Hyb Trafnidiaeth Port Talbot
12 canol dydd Diwedd yr orymdaith
1pm Heolydd yn ailagor
CASTELL-NEDD:
9am Gorchymyn cau heolydd yn dechrau
9.15am Y rheiny sy’n cymryd rhan yn ymgasglu yn Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd
9.30am Y Gwasanaeth Eglwysig yn dechrau
10.35am Y rheiny sy’n cymryd rhan yn ymgasglu ar gyfer yr Orymdaith ar Stryd Dewi Sant
10.40am Yr orymdaith yn dechrau
10.50am Yr orymdaith yn cyrraedd y Clwydi Coffa
11am Gweithred o Gofio
11.15am Y rheiny sy’n cymryd rhan yn ymgasglu ar gyfer yr Orymdaith yn ôl i dderbyn y saliwt o flaen y Llwyfan ar Heol Cedrwydd
12 canol dydd Diwedd yr orymdaith a heolydd yn ailagor
Cynhelir digwyddiadau cofio yn Llansawel, Ystalyfera a Phontardawe hefyd, dan ofal cynghorau cymuned a thref, gyda chymorth sefydliadau gwirfoddol.
