Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Bydd parc sy’n ffinio castell hanesyddol Caerffili yn gweld gwelliannau sylweddol i’w mannau cyhoeddus a hynny mewn ymateb i angen a fynegwyd gan bobl yn y dref.
Caiff Parc Dafydd Williams, gyda llwybrau cerdded yn cysylltu Heol y Cilgant, Park Lane, a Ffos Caerffili, ei ailddatblygu i drawsnewid y mynedfeydd o amgylch y parc, gwella goleuadau stryd, creu mannau eistedd deniadol a chroesawgar, a gosod gwaith celf newydd ac offer chwarae i blant.
Mae’r prosiect yn rhan o Tref Caerffili 2035, y cynllun creu lleoedd a gynlluniwyd i helpu’r ardal i gyrraedd ei llawn botensial fel lle bywiog i fyw, gweithio ac ymweld â hi, tra’n hyrwyddo ei hunaniaeth a’i threftadaeth unigryw.
Y cynlluniau hyn yw’r diweddaraf i gael eu datblygu mewn partneriaeth â chymuned Caerffili.
Trwy gyfres o ddigwyddiadau a roddodd gyfle i drigolion, plant ysgol a pherchnogion busnesau gerdded drwy’r parc a siarad am y newidiadau yr oeddent am eu gweld, dysgodd tîm ymgysylltu Tref Caerffili 2035 fod llawer o bobl eisiau i Barc Dafydd Williams deimlo mwy fel rhan o’r dref.
Mae Liane Elms, 51, yn aelod o’r Pwyllgor Trigolion ac yn un o’r cannoedd o bobl a gymerodd ran mewn trafodaethau gyda’r tîm ymgysylltu i rannu ei meddyliau, ei phryderon a’i syniadau. Mae hi wedi byw ym mwrdeistref Caerffili drwy gydol ei hoes, ac mae bellach wedi ymgartrefu ym Medwas gyda’i gŵr a’i dau o blant 20 a 17 oed.
“Ymunais i â’r Pwyllgor Trigolion oherwydd ro’n i’n un o’r bobl hynny oedd arfer cwyno am bethau ond, does dim pwynt os nad ydych chi’n mynd i gyflawni unrhyw beth,” meddai Liane.
“Gyda Pharc Dafydd Williams, dwi’n credu mai diogelwch oedd e’ fwy na dim. Mae pobl i weld yn eitha’ hapus gyda chyfleusterau’r parc, ond mae pryderon am y goleuadau a dyw pobl ddim eisiau cerdded drwyddo yn y tywyllwch.”
Dywedodd Liane ei bod hi’n falch o weld y pryderon hyn yn cael eu trafod yn y cynlluniau ac ychwanegodd fod gwelliannau eraill a gyflwynwyd trwy Tref Caerffili 2035 wedi cael derbyniad cadarnhaol, gyda mwy ar y ffordd.
“Pan ti di byw yma am amser hir gelli di weld Caerffili yn datblygu,” meddai. “Fydd hi byth yr un peth ag yr oedd hi yn y 70au a’r 80au gan fod siopau wedi newid ond gelli di weld gyda Ffos Caerffili, sgwariau Windsor a Stockland, a’r datblygiad ym mhen ucha’r dref, mae pethau’n gwella.”
Dywedodd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: “Mae Parc Dafydd Williams yn ganolbwynt i’n cymuned, ac mae’n wych gweld ein cynllun ailddatblygu’n dwyn ffrwyth.
“Rydyn ni wedi gwrando ar farn trigolion drwy sesiynau ymgysylltu, gan gydnabod y potensial i wella apêl y parc i bawb yng Nghaerffili. Diolch i bawb a fynegodd eu barn.”
