Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Mae Cymru’n dangos y gall cenhedloedd bach arwain ar weithredu hinsawdd, meddai Huw Irranca-Davies
    Yn Gymraeg

    Mae Cymru’n dangos y gall cenhedloedd bach arwain ar weithredu hinsawdd, meddai Huw Irranca-Davies

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 11, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs - Huw Irranca-Davies
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud bod COP30 yn foment dyngedfennol ar gyfer cydweithredu rhyngwladol a chanlyniadau yn y byd go iawn yn ein hymateb i’r argyfwng newid hinsawdd.

    Wrth i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ddechrau ym Mrasil, mae’r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies wedi dweud bod Cymru’n brawf y gall gwledydd bach arwain newid trawsffurfiol ar y llwyfan byd-eang:

    “Ddeng mlynedd ers Cytundeb Paris, mae COP30 yn foment allweddol ac yn nodi’r dyddiad cau i wledydd gyflwyno eu cynlluniau gweithredu wedi’u diweddaru sy’n hanfodol i benderfynu a yw cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5⁰C yn parhau i fod yn gyraeddadwy.

    “Nid yw’n ymwneud â thrafod targedau yn unig mwyach – mae hyn bellach yn ymwneud â chyflawni canlyniadau.

    “Mae newid hinsawdd yn effeithio arnom ni i gyd, o lifogydd mewn cymunedau yng Nghymru i brisiau bwyd cynyddol a thonnau gwres estynedig. Dyna pam rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i’r frwydr fyd-eang yn ei erbyn ac yn cydnabod bod y gynhadledd hon yn cynrychioli rhywbeth mwy arwyddocaol na rhai blaenorol.

    “Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – gan sefydlu egwyddor sylfaenol sy’n llywio popeth a wnawn, gan gynnwys gweithredu ar newid hinsawdd.

    “Rydym yn wlad sy’n gweithredu gydag uniondeb, yn cyflawni ein gwerthoedd, ac yn deall ein cyfrifoldebau byd-eang.

    “Mae’r rhan fwyaf o weithredu ar newid hinsawdd y byd yn digwydd trwy ymdrechion lleol a rhanbarthol, a dyna pam rydym yn cymryd camau uchelgeisiol gartref: yn lleihau allyriadau, diogelu ein hamgylchedd naturiol, ac adeiladu cymunedau sy’n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd.

    “Ond mae newid ystyrlon yn digwydd pan fyddwn yn sefyll gyda’n gilydd. Rydym yn gweld sut mae rhai yn troi eu cefnau ar eu hymrwymiadau i’r hinsawdd, sy’n gadael cymunedau yn llai diogel. Fyddwn ni byth yn defnyddio’r dull hwnnw. Trwy weithio ochr yn ochr â gwledydd, rhanbarthau a chymunedau brodorol eraill, rydym yn sefyll dros y blaned ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

    “Rydym yn falch o weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a’n partneriaid rhyngwladol – ac yn disgwyl cydweithredu parhaus o’r COP hwn.

    “Yng Nghymru, byddwn yn parhau i droi uchelgeisiau o ran yr hinsawdd yn ganlyniadau ac yn barod i gefnogi canlyniadau ystyrlon o’r trafodaethau byd-eang.

    “Nid cymryd rhan yn unig y mae gwledydd bach yn ei wneud wrth lunio ein dyfodol – rydyn ni’n ei arwain. Yng Nghymru, rydym yn gwybod pan fyddwch chi’n deddfu ar gyfer y dyfodol, yn gweithredu gydag uniondeb, ac yn gweithio mewn partneriaeth wirioneddol, gallwch gyflawni llawer mwy na’r disgwyl.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.