Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Mae gorchymyn gorfodol i gadw adar dan do wedi’i gyflwyno ledled Cymru yng nghanol achosion o’r ffliw adar
    Yn Gymraeg

    Mae gorchymyn gorfodol i gadw adar dan do wedi’i gyflwyno ledled Cymru yng nghanol achosion o’r ffliw adar

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 12, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Chicken (Adobe Stock)
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth yng Nghymru gadw eu hadar o dan do o ddydd Iau 13 Tachwedd yn sgil cyflwyno mesurau i leihau’r risg o ledaenu ffliw adar

    Mae Cymru’n wynebu bygythiad sylweddol uchel oherwydd nifer cynyddol o achosion o ffliw’r adar mewn adar cadw ac adar gwyllt ledled Prydain Fawr.

    Mae ffliw adar yn destun pryder difrifol, nid yn unig o ran iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd o safbwynt cynhyrchu bwyd ac iechyd pobl.

    O ddydd Iau Tachwedd 13, bydd yn ofyn cyfreithiol i bob ceidwad sy’n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth gadw ei adar dan do.

    Bydd heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth yn gorfod cael eu cadw dan do hefyd os yw eu hwyau neu eu cynhyrchion yn cael eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd, oherwydd y risg uwch o drosglwyddo’r clefyd sy’n gysylltiedig â masnachu neu roi cynhyrchion dofednod i ffwrdd.

    Bydd gofynion bioddiogelwch ychwanegol hefyd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y sector adar hela, a welodd achosion o ffliw adar y tymor diwethaf.

    Bydd y mesurau gorfodol newydd i gadw adar dan do yn cael eu hymgorffori ym Mharth Atal Ffliw Adar presennol Cymru (AIPZ) a gyflwynwyd ym mis Ionawr.

    Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

    “Rydym yn cadw golwg ar y mesurau sydd eu hangen.  Ers i’r Parth Atal Ffliw Adar gael ei gyflwyno ddechrau’r flwyddyn, mae risg y clefyd wedi cynyddu eto yn ddiweddar, ac mae Cymru bellach yn wynebu risg uchel iawn o ffliw adar.

    “Nid ydym wedi gwneud y penderfyniad ar chware bach, ond mae’n angenrheidiol i ddiogelu ein hadar a bywoliaeth ceidwaid dofednod Cymru.

    “Rwy’n annog pob ceidwad adar i gydymffurfio â’r gofynion hyn a chynnal y safonau biodiogelwch uchaf. Rwy’n cydnabod y bydd hyn yn anodd, ond trwy weithredu nawr gallwn helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ac amddiffyn ein heidiau.”

    Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine:

    “Rydym yn gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o ffliw adar mewn adar cadw ac adar gwyllt. Yn wyneb y lefelau risg uchel iawn presennol, rydym bellach yn cyflwyno mesurau gorfodol i gadw adar dan do, a fydd yn effeithio ar Gymru gyfan.

    “Rwy’n gwerthfawrogi’r effaith y mae’r mesurau hyn yn ei chael ar geidwaid, ac rwy’n parhau i fod yn ddiolchgar am eu cydweithrediad i ddiogelu iechyd a lles eu hadar.

    “Gall mesurau hyn i gadw adar dan do helpu i amddiffyn adar rhag y clefyd, ond ni ddylent gymryd lle hylendid a bioddiogelwch llym.

    Rwy’n cynghori ceidwaid yn gryf i weithredu nawr ac i ymgyfarwyddo â’r camau y mae angen iddynt eu cymryd i amddiffyn eu hadar. Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r rhestr hunanasesu bioddiogelwch orfodol sydd ar gael ar-lein.

    “Dylai pawb barhau i fod yn wyliadwrus, rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw amheuon bod y clefyd wedi’u taro, a sicrhau eu bod yn dilyn y gofynion bioddiogelwch gorfodol llymach i amddiffyn eich adar.”

    Bydd y gorchymyn cadw adar dan do a’r AIPZ mewn grym nes y cyhoeddir yn wahanol a bydd Llywodraeth Cymru’n cadw golwg ar y mesurau hwn wrth fonitro a rheoli’r risg ffliw adar, hynny law yn llaw â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a gweinyddiaethau eraill y DU.

     

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.