Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Mae iechyd ac addysg yn cael eu diogelu yn Nrafft Gyllideb £27bn Llywodraeth Cymru
    Yn Gymraeg

    Mae iechyd ac addysg yn cael eu diogelu yn Nrafft Gyllideb £27bn Llywodraeth Cymru

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 3, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Senedd. Credit: Welsh Government
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Heddiw, cafodd rhagor o fanylion am Gyllideb Ddrafft gwerth £27 biliwn Llywodraeth Cymru eu nodi, sy’n dangos cynnydd mewn cyllid ar gyfer pob adran allweddol.

    Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod y cynlluniau gwario adrannol yn dangos ymrwymiad y llywodraeth i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, wrth gynnal sefydlogrwydd cyn etholiad y Senedd.

    Mae Cam Dau Cyllideb Ddrafft 2026-27 yn nodi mwy na £800 miliwn o gyllid ychwanegol o’i gymharu â chyllideb y llynedd, ac mae’n diogelu cyllid ar gyfer iechyd, addysg a gwasanaethau hanfodol eraill.

    Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

    “Mae’r cynlluniau gwario yma’n dangos sut rydyn ni’n diogelu’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw fwyaf. Bydd pob adran allweddol yn gweld mwy o gyllid, gan ddarparu’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar ein gwasanaethau cyhoeddus.

    “Rydyn ni’n parhau i fod yn agored i weithio gyda phleidiau eraill yn y Senedd i greu cyllideb fwy uchelgeisiol byth. Mae’r drws yn dal ar agor i’r rhai sy’n rhannu ein hymrwymiad i basio Cyllideb sy’n gweithio i bawb yng Nghymru.”

    Mae’r Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyhoeddi mewn dau gam. Roedd Cam Un, a gafodd ei gyhoeddi ar 14 Hydref, yn cynnwys y dyraniadau adrannol lefel uchel. Bydd Cam Dau, sy’n cynnwys cynlluniau gwario adrannol mwy manwl, yn cael ei gyhoeddi ar 3 Tachwedd.

    Bydd y setliad llywodraeth leol drafft yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen ym mis Tachwedd.

    Caiff y Gyllideb Derfynol ei chyhoeddi ar 20 Ionawr 2026, gyda phleidlais yn y Senedd wedi’i threfnu ar gyfer 27 Ionawr.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.