Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar foderneiddio’r rheolau etholiadau lleol
    Yn Gymraeg

    Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar foderneiddio’r rheolau etholiadau lleol

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 28, 2025Updated:October 28, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Ballot box Blwch pleidleisio. Picture credit: Chris Loades
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad yn ceisio barn ar Reolau drafft Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026 a Gorchymyn drafft Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026. 

    Mae’r newidiadau arfaethedig, a fyddai’n dod i rym ar gyfer yr etholiadau lleol yn 2027, yn canolbwyntio ar sicrhau bod etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn parhau i fod yn gyfredol ac yn gyson â’r diweddariadau a wnaed i weithdrefnau etholiadau’r Senedd yn ddiweddar.

    Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 12 wythnos, gyda Llywodraeth Cymru yn annog yr holl bartïon â buddiant i roi adborth ar y cynigion.

    Mae’r prif gynigion yn cynnwys diweddaru’r rheolau i sicrhau eu bod yn gwbl ddwyieithog ac yn cyd-fynd â’r newidiadau a wnaed i Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.

    Mae’r gwelliannau arfaethedig hefyd yn mynd i’r afael â threfniadau diogelwch ymgeiswyr ac yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod ymgeiswyr yn gallu cymryd mesurau diogelwch priodol tra’n cadw at reolau gwariant ymgyrchu teg a thryloyw.

    Mae hyn yn golygu y byddai ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol yn gallu ysgwyddo treuliau rhesymol ar gyfer diogelwch personol a diogelu eiddo heb i’r costau hyn gyfrif tuag at derfynau gwariant eu hymgyrch, gan ddod ag etholiadau lleol yn unol â’r diwygiadau diweddar a wnaed ar gyfer etholiadau’r Senedd.

    Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: “Bydd y newidiadau arfaethedig hyn yn moderneiddio ein rheolau etholiadau lleol ac yn sicrhau cysondeb ar draws holl etholiadau Cymru.

    “Yn hollbwysig, maen nhw’n cydnabod na ddylai unrhyw ymgeisydd orfod dewis rhwng eu diogelwch a’u gallu i ymgyrchu. Ni ddylai amddiffyn eu hunain a’u heiddo byth ddod ar draul cyrraedd pleidleiswyr. Dyma un o brif argymhellion adroddiad ardderchog Sefydliad Jo Cox ar fynd i’r afael â chamdriniaeth a bygythiadau – rhywbeth dw i wedi bod yn gweithio’n agos gyda nhw i fynd i’r afael ag o.

    “Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb yn ein prosesau democrataidd i ymateb i’r ymgynghoriad hwn a helpu i lunio’r diweddariadau hanfodol hyn.”

    Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Llywydd CLlLC: “Mae sefyll mewn etholiad yn cymryd dewrder, ymrwymiad ac awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth. Ni ddylai unrhyw un deimlo mewn perygl oherwydd eu bod wedi penderfynu gwasanaethu eu cymuned.

    “Mae’r newidiadau arfaethedig hyn yn cydnabod y realiti hwnnw a byddant yn helpu i wneud democratiaeth leol yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb. Maen nhw hefyd yn moderneiddio ein rheolau etholiadol i adlewyrchu’r gwerthoedd tegwch a dwyieithrwydd sydd wrth galon democratiaeth yng Nghymru.”

    Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 12 Ionawr 2026: Newidiadau i reolau etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru | LLYW. CYMRU

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.