Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Mae TUI yn agor swyddfeydd newydd yn swyddogol yng nghanol dinas Abertawe
    Yn Gymraeg

    Mae TUI yn agor swyddfeydd newydd yn swyddogol yng nghanol dinas Abertawe

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 29, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: Swansea Council
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae staff y cwmni teithio a hamdden TUI wedi cynnal digwyddiad agor swyddogol yn eu swyddfeydd newydd yng nghanol dinas Abertawe.

    Maen nhw ymhlith y tenantiaid yng nghynllun 71/72 Ffordd y Brenin ar safle hen glwb nos Oceana.

    Credit: Swansea Council

    Mae wyth deg y cant o’r swyddfeydd yn y datblygiad bellach wedi’i osod a disgwylir cyhoeddiadau pellach am denantiaid dros yr wythnosau nesaf.

    Mae’r tenantiaid eraill sydd wedi’u cadarnhau hyd yn hyn yn cynnwys IWG a’r cwmni ariannol Futures First.

    Bydd lle i 600 o weithwyr yng nghynllun 71/72 Ffordd y Brenin a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a ariannwyd yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

    Roedd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, yn bresennol yn nigwyddiad agoriadol swyddogol TUI.

    Credit: Swansea Council

    Meddai, “Mae’n wych gweld cwmni TUI yn y datblygiad newydd, yn ymuno â staff o Futures First yn y cynllun.

    “Mae cynlluniau fel hyn yn bwysig gan eu bod yn helpu i gadw busnesau a swyddi yn Abertawe, gan hefyd greu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl leol.

    “Mae preswylwyr yn aml yn gofyn pam nad yw mwy o siopau yn agor yng nghanol y ddinas, ond y realiti yw, o ystyried heriau fel siopa ar-lein, mae angen llawer mwy o bobl yng nghanol y ddinas i gyrraedd y lefelau o ymwelwyr a gwariant y bydd eu hangen ar siopau er mwyn iddynt ystyried agor yma.

    “Bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin, ar y cyd ag eraill, yn helpu i gyrraedd y nifer hwnnw o ymwelwyr wrth i raglen adfywio gwerth dros £1bn barhau i drawsnewid ein dinas.”

    Mae’r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr yn cynnwys teras gwyrdd ar y to sydd â golygfeydd dros Fae Abertawe, ynghyd â phaneli solar ar ben yr adeilad a systemau adfer gwres i leihau’r defnydd o ynni.

    Mae cyswllt newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen hefyd yn rhan o’r cynllun.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.