Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Mae’r cartrefi cyntaf wedi’u gwerthu yn ail gam prosiect tai yn Sir Gaerfyrddin
    Yn Gymraeg

    Mae’r cartrefi cyntaf wedi’u gwerthu yn ail gam prosiect tai yn Sir Gaerfyrddin

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 27, 2025Updated:October 28, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Rob Good, Banc Datblygu Cymru; Neil Dodd a Grant Lloyd, New Generation Developments
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae gwaith bron â chael ei gwblhau ar ddatblygiad o 24 o gartrefi ecogyfeillgar newydd yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn benthyciad o £3.27 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.

    Mae New Generation Developments Ltd eisoes wedi cytuno ar werthiannau oddi ar y cynllun yn ail gam Park View Drive, yng Nghydweli. Dechreuodd y gwaith ar y safle, sy’n cynnwys 24 byngalo tair ystafell wely, yn 2021, gyda New Generation Developments Ltd yn ariannu datblygiad ail gam y prosiect gyda’r benthyciad saith ffigur gan y Banc Datblygu, ynghyd â chefnogaeth gan Gymhelliant Datblygu Gwyrdd y Banc Datblygu.

    Mae Park View Drive yn edrych dros y Gwendraeth Fawr gerllaw ac ar draws Bae Caerfyrddin. Mae gan bob un o’r byngalos ei bwmp gwres ffynhonnell aer ei hun a byddant yn cyflawni sgôr EPC-A. Mae pedwar o’r cartrefi yn ail gam y safle eisoes wedi’u cadw, gyda diddordeb pellach gan hap brynwyr eraill.

    Dywedodd Neil Dodd, Cyfarwyddwr New Generation Developments: “Mae galw mawr am eiddo fel ein un ni wrth i berchnogion hŷn edrych i leihau maint eu cartrefi, ac rydym wedi cael diddordeb yn y cartrefi gan brynwyr posibl o bob cwr o’r DU. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gwerthu ein pedwar byngalo cyntaf oddi ar y cynllun.

    “Fe wnaeth y gefnogaeth a gawsom gan Fanc Datblygu Cymru ein helpu i symud y datblygiad ymlaen yn hyderus ac yn wir, roedd eu cefnogaeth yn amhrisiadwy.”

    Dywedodd Rob Good a Brad Thatcher, Swyddogion Datblygu Eiddo ym Manc Datblygu Cymru: “Mae New Generation Developments yn adeiladu cartrefi sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd gyda pherchnogion tai sy’n ymddeol, gan ddarparu cartrefi llai sydd eu hangen yn fawr mewn cymuned sy’n tyfu mewn rhan hardd o Gymru.

    “Rydym yn falch bod ein benthyciad wedi gallu eu cefnogi gyda chyllid a symud y prosiect ymlaen, ac mae’n ardderchog bod pobl eisoes wedi dechrau gwneud eu cartref newydd yma.”

    Mae’r Banc Datblygu yn darparu cyllid datblygu eiddo preswyl, cymysg ei ddefnydd, a masnachol tymor byr o £150,000 i £10 miliwn o ystod o gronfeydd gan gynnwys Cronfa Eiddo Masnachol Cymru, Cronfa Eiddo Preswyl Cymru a Chymhelliant Datblygu Gwyrdd.

    Fel sefydliad cyllid cyhoeddus sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, mae Banc Datblygu Cymru yn darparu benthyciadau ac ecwiti i fusnesau, pobl a chymunedau Cymru i gefnogi amcanion polisi ehangach y Llywodraeth gan gynnwys y newid i economi carbon isel a datblygu cartrefi newydd ac eiddo masnachol. Mae £959 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig a datblygwyr eiddo gan y Banc Datblygu ers ei lansio yn 2017.

    Mae gan y Banc Datblygu bellach £2 biliwn mewn cronfeydd o dan reolaeth a phortffolio o fwy na 3,600 o gwsmeriaid busnesau bach. Helpodd cyllid dyled ac ecwiti gwerth cyfanswm o £152 miliwn 502 o fusnesau i greu a diogelu 6,185 o swyddi ledled Cymru yn ystod 2024/25. Roedd hyn yn cynnwys £48 miliwn ar gyfer 23 o fusnesau eiddo yn gweithio ar 24 o ddatblygiadau newydd gyda 390 o gartrefi newydd wedi’u darparu, ac roedd 125 ohonynt yn fforddiadwy. Cyfanswm y cyd-fuddsoddiad gan y sector preifat oedd £14 miliwn.

    Ewch i weld bancdatblygu.cymru am ragor o wybodaeth.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.