Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd
    Yn Gymraeg

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 21, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: Transport for Wales
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Yn sgil newidiadau i amserlen fis Rhagfyr (o 14eg), bydd mwy o wasanaethau ar gael ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

    Bydd yr amserlen newydd yn cynnwys mwy o gysylltiadau â chymunedau, yn rhoi hwb i economi gyda’r nos, yn darparu mwy o gyfleoedd i deithio a mwy o gysylltiadau ledled Cymru.

    Mae’r rhain yn newidiadau pellach fel rhan o datblygiadau Rwydwaith Gogledd Cymru a Metro De Cymru.

    Dyma rai o’r newidiadau allweddol:

    • Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Caer a Wrecsam, gan ddyblu amlder i 2 drên yr awr.
    • Trên canol dydd newydd i bob cyfeiriad ar hyd lein Calon Cymru rhwng yr Amwythig ac Abertawe drwy Landrindod, sy’n golygu 5 trên y dydd.
    • Gwasanaeth dydd Sul newydd sbon bob awr rhwng Coryton a Phenarth (estyniad i’r gwasanaeth presennol rhwng Caerdydd a Phenarth) sy’n annog teithio ar y Sul.
    • Ar ddydd Gwener, bydd tri thrên hwyrach o Gaerdydd yn gadael ar ôl hanner nos i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, gan gynnwys cysylltiad o Fae Caerdydd.
    • Bydd y gwasanaeth dyddiol 11:23 rhwng Caerdydd a Chaergybi nawr yn galw mewn rhagor o orsafoedd – Craven Arms (12:59) a Church Stretton (13:07).
    • O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, bydd gwasanaeth newydd yn gadael am 05:54 o Bidston i Wrecsam Cyffredinol ac am 20:51 o Wrecsam Canolog i Bidston
    • O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, bydd amser y gwasanaeth 07:40 presennol o Gaerdydd i Aberdaugleddau yn newid i 07:21, fel bod gwasanaeth mwy rheolaidd i Abertawe ar gyfer y rheini sy’n teithio yn ystod oriau brig.
    • O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, bydd y gwasanaethau presennol rhwng Caerdydd a Chaerloyw am 14:10, a Chaerloyw a Chaerdydd am 15:49, bellach yn ymestyn yn ôl ac ymlaen o Sba Cheltenham.
    • O ddydd Llun i ddydd Sadwrn bydd gwasanaeth newydd yn gadael am 05:37 o Ben-y-bont ar Ogwr i Gaerdydd gan alw ym mhob gorsaf ac yn ymestyn i Lynebwy.  Bydd y gwasanaeth yn cefnogi’r rheini sy’n teithio i’r gwaith yn gynnar.
    • Ar ddydd Sadwrn, bydd gwasanaeth hwyr newydd yn gadael am 23:23 o Gaerdydd i Henffordd a bydd y trên presennol am 22:15 o Gaerdydd i Henffordd yn cael ei ymestyn i’r Amwythig.
    • Ni fydd unrhyw newid yn cael ei wneud i’r gwasanaethau am 20:26 rhwng Pwllheli a Machynlleth, a’r gwasanaeth 21:47 rhwng Machynlleth a Phwllheli ar hyd Lein y Cambrian.

    Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: “Mae cysylltiad rheilffordd yn hanfodol i sbarduno ffyniant.

    “Bydd y newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwsmeriaid, a fydd yn elwa o fwy o wasanaethau a chynnydd mewn cysylltiadau ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

    “Mae hyn   wedi    bod yn bosibl yn sgil ein buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a’r Gororau.”

    Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Mae’r newidiadau hyn i’r amserlen yn gam arall ymlaen yn ein hymdrechion i gynnig gwasanaeth rheilffyrdd mwy rheolaidd, dibynadwy a chyfeillgar i gwsmeriaid ledled Cymru a’r Gororau.

    “Trwy ychwanegu gwasanaethau newydd a newid rhai presennol, rydym yn cynyddu cysylltiad mewn ardaloedd allweddol fel Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn bodloni’r galw cynyddol sydd am y gwasanaethau ac yn defnyddio ein fflyd o drenau mewn ffordd fwy strategol.

    “Boed yn wasanaeth newydd bob awr rhwng Caer a Wrecsam, y gwasanaethau ar hyd lein Calon Cymru wedi’i diweddaru neu wasanaethau hwyrach i’r Cymoedd, mae’r diweddariadau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad”.

    I gael manylion llawn ac i gynllunio’ch taith, cofiwch wirio cyn teithio yma www.trc.cymru a gwirio manylion teithiau o 14 Rhagfyr.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.