Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn cyrraedd 100
    Yn Gymraeg

    Nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn cyrraedd 100

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 12, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    BIC Innovation became fully employee owned earlier this year
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru wedi cyrraedd 100 – sy’n cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r model perchnogaeth gan weithwyr a’r manteision y mae’n ei ddarparu i’r economi a chymunedau ledled Cymru.

    Mae nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru lawer yn uwch bellach na’r nifer yr ymrwymwyd iddo yn y Rhaglen Lywodraethu i ddyblu’r nifer yng Nghymru a chyrraedd 74 erbyn 2026.

    Mae gwasanaeth Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor arbenigol i gefnogi pryniannau gan weithwyr, ac mae Cwmpas yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo manteision perchnogaeth gan weithwyr yng Nghymru.

    Daeth BIC Innovation o Ynys Môn yn eiddo i weithwyr trwy Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr (EOT) gyda chefnogaeth Cwmpas yn gynharach eleni.

    Mae’r cwmni ymgynghori, sy’n arbenigo mewn arloesi a thwf ac sydd hefyd â swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi trosglwyddo i ddechrau i fod yn fusnes sy’n eiddo i weithwyr trwy gynllun perchnogaeth cyfranddaliadau yn 2018. Mae’r EOT bellach yn rhedeg y busnes er budd ei weithwyr, gan roi llais cryfach iddynt yn ei gyfeiriad at y dyfodol.

    Dywedodd Huw Watkins, cyfarwyddwr a sefydlydd BIC Innovation: 

    “Er bod nifer o lwybrau ar agor i ni, creu EOT oedd yr un a oedd yn diogelu ein hanes a’n gwerthoedd orau. Mae’n adlewyrchu pwy ydym ni: busnes pobl, wedi’i adeiladu ar ymddiriedaeth, cydweithredu, a phartneriaethau hirdymor.

    “Mae’r symudiad hwn yn sicrhau parhad arweinyddiaeth wrth agor y drws i gyfleoedd newydd i’r bobl sy’n gwneud BIC yr hyn ydyw.”

    I ddathlu cyrraedd 100 o fusnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru, cynhaliwyd digwyddiad yn siop John Lewis yng Nghaerdydd neithiwr (dydd Mawrth 11eg). John Lewis Partnership yw’r busnes mwyaf sy’n eiddo i weithwyr yn y DU, gyda thua 74,000 o weithwyr yn gweithredu fel cyd-berchnogion y busnes.

    Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

    “Mae tystiolaeth yn dangos bod busnesau sy’n eiddo i weithwyr yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy gwydn. Maent hefyd wedi’u gwreiddio yn eu hardaloedd a’u rhanbarthau lleol, gan sicrhau swyddi o ansawdd da ar gyfer y tymor hwy o fewn cymunedau.

    “Un o ymrwymiadau allweddol y llywodraeth hon yw cefnogi perchnogaeth gan weithwyr, gan ddarparu cefnogaeth sylweddol i weithwyr brynu a sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru yn parhau i fod wedi’u gwreiddio mewn economi gryfach yng Nghymru.

    “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y targed o 100 o fusnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru. Mae graddfa’r sector wedi tyfu’n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda’r potensial i lawer mwy o fusnesau drosglwyddo i berchnogaeth o’r fath a ffynnu.”

    Dywedodd Rheolwr Prosiect Cwmpas, Nicola Mehegan:

    “Mae cyrraedd 100 o fusnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn garreg filltir ryfeddol sy’n dangos cryfder ac uchelgais ein cymuned fusnes.

    “Mae perchnogaeth gweithwyr yn cryfhau economi Cymru – cadw busnesau a swyddi wedi’u gwreiddio mewn cymunedau lleol, rhoi hwb i gynhyrchiant a sicrhau bod cyfoeth yn aros yng Nghymru. Mae’r cynnydd hwn wedi’i wneud yn bosibl gan ymrwymiad clir Llywodraeth Cymru i berchnogaeth gan weithwyr yn ei Rhaglen Lywodraethu.

    “Gyda’n gilydd, rydym yn creu cwmnïau mwy gwydn, arloesol sy’n diogelu gwaddol perchnogion busnes ac yn adeiladu economi gryfach, decach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.