Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Parc yn Cyrraedd yr Uchelfannau wrth i Faes Chwarae Antur Tyrau Gnoll Agor
    Yn Gymraeg

    Parc yn Cyrraedd yr Uchelfannau wrth i Faes Chwarae Antur Tyrau Gnoll Agor

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryOctober 27, 2025Updated:October 28, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Tyrau Gnoll
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae parc antur newydd sbon sy’n cynnwys nodweddion dringo ymysg brigau’r coed yn agor yfory yn lleoliad poblogaidd Parc Gwledig Gnoll, Castell-nedd.

    Wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU, mae Tyrau Gnoll yn faes chwarae antur aml-lefel sy’n cynnig ystod o nodweddion hygyrch ar gyfer ymwelwyr o bob oedran a gallu, gan gynnwys llithrenni, waliau dringo, rampiau ac ardaloedd aml-lwyfan heriol.

    Ddydd Sadwrn, 25 Hydref, 2025, mae’r atyniad newydd, sy’n cynnwys tŵr dringo enfawr Gnoll, yn cael ei agor i’r cyhoedd.

    Mae’r parc antur yn rhan o brosiect adfywio llawer mwy, sy’n werth miliynau o bunnoedd, ar gyfer parc hanesyddol Gnoll, a ariennir gan Lywodraeth y DU, sydd hefyd yn cynnwys:

    • Canolfan ymwelwyr newydd, hollol hygyrch, gyda chaffi ac ardal chwarae meddal i blant.
    • Adfer nodweddion hynafol fel adfeilion Tŷ Gnoll a rhaeadrau deniadol y parc.
    • Llety wedi’i uwchraddio i ymwelwyr ym Mwthyn y Pwll.

    Lleolir Parc Gwledig Gnoll ar draws 240 erw ac mae’n cynnwys coedwigoedd, ardaloedd agored, a sawl pwll dŵr. Ymysg atyniadau eraill mae llwybrau drwy’r coed, adfeilion hanesyddol, a sawl digwyddiad yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.

    Dywedodd y Cynghorydd Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae’r ardal chwarae gynhwysol hon yn cynnwys tyrau sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd, ble gall plant ddringo, llithro, cropian, a darganfod eu ffordd drwy fyd o chwarae dychmygus a gweithgar.

    “O lwyfannau isel, hygyrch, i dyrau uchel, anturus, gall plant ddewis eu lefel her eu hunain – sy’n berffaith ar gyfer chwarae aml-allu. Mae nodweddion sy’n denu’r synhwyrau, gemau ar sail lliw, elfennau cerddorol a pharthau tawel oll yn cefnogi ystod eang o anghenion cymdeithasol a chorfforol. Bydd hyn yn ychwanegu at y llu atyniadau a geir yn ein Parc Gwledig Gnoll hanesyddol.”

    Ychwanegodd y Cynghorydd Phillips, Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Rydyn ni wrth ein bodd o allu agor Parc Antur Tyrau Gnoll sy’n cynnwys, wrth gwrs, y tŵr enfawr trawiadol na ellir mo’i osgoi.”

    Pan fyddwch chi’n ymweld â Pharc Gwledig Gnoll, peidiwch â cholli’r gosodiad ‘Gnollywood’ a’r llwybr hudol ‘Coeden a Sawl Wyneb’ sydd ill dau ar agor ac yn aros i’w darganfod.

    Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.