Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Partneriaeth newydd i ddiogelu cymunedau ac adfer corsydd mawn Cymru
    Yn Gymraeg

    Partneriaeth newydd i ddiogelu cymunedau ac adfer corsydd mawn Cymru

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 5, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    New partnership to protect communities and restore Welsh peatlands
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Admiral wedi ymuno mewn partneriaeth strategol newydd sy’n dod â chadwraeth natur a diogelu cymunedau at ei gilydd.

    Dros y tair blynedd nesaf, bydd y ddau sefydliad yn gweithio i adfer tirweddau hanfodol a chodi ymwybyddiaeth o sut y gall atebion sy’n seiliedig ar natur helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol o lifogydd.

    Dyma’r tro cyntaf i’r ddau sefydliad gyfuno eu cryfderau: profiad Admiral o edrych ar ôl pobl a’r pethau sy’n bwysicaf iddynt, ac arbenigedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn diogelu’r amgylchedd.

    Gyda llifogydd eisoes yn effeithio ar un o bob chwe chartref yn y DU, a disgwylir i’r nifer hwnnw godi i un o bob pedwar erbyn 2050[1], bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar reoli llifogydd yn naturiol i arafu llif dŵr, storio carbon, a chreu cynefinoedd iachach i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, bywyd gwyllt a’r hinsawdd[2].

    Wedi’i ariannu gan fuddsoddiad o £600,000 o Fenter Cronfa Werdd (Green Fund Initiative) Admiral Group, bydd y prosiect yn cyflawni gwaith adfer ar raddfa fawr a gwaith wedi’i dargedu yn Eryri yng Nghymru, ar draws Ystâd Holnicote yng Ngwlad yr Haf ac yn Ardal y Llynnoedd[3].

    Mae’r cyntaf o’r prosiectau hyn bellach ar waith yng nghalon Eryri, gyda’r nod o adfywio un o dirweddau ecolegol pwysicaf Cymru-gorgors y Migneint.

    Gan weithio ar fawn ar lwyfandir helaeth y Migneint, bydd y prosiect uchelgeisiol gwerth £180,000 yma yn adfer tua 12 hectar, maint tair Stadiwm Principality [4], o’r mawndir sydd wedi’i erydu fwyaf yn Waen Fraith dros y tair blynedd nesaf[5]. Mae’r ardal yn dirwedd warchodedig prin a gwerthfawr [6] gyda’r prosiect yn anelu at sicrhau manteision grymus i fioamrywiaeth, gwytnwch hinsawdd, ac atal llifogydd-gan ei wneud yn fuddugoliaeth i natur a chymunedau yn gyffelyb.

    Dywedodd Michelle Leavesley, Prif Swyddog Cynaliadwyedd gyda Admiral Group, “Rydym yn buddsoddi mewn datrysiadau rheoli llifogydd yn naturiol i gryfhau gwytnwch llifogydd i bobl a natur. I ni yn Admiral, mae diogelu cartrefi pobl yn golygu cymryd camau y tu hwnt i yswiriant trwy adeiladu dealltwriaeth a gwytnwch i effaith newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol. Mae’r bartneriaeth hon yn enghraifft berffaith o sut yr ydym yn byw ein pwrpas, helpu mwy o bobl i ofalu am eu dyfodol, tra’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau a’r amgylchedd.”

    Meddai Iago Thomas, Swyddog Mawndir gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Mae gorgorsydd yn arwyr hinsawdd di-glod. Maent yn cloi carbon, yn rheoleiddio llif dŵr, ac yn cynnal bywyd gwyllt prin. Ond yn yr amgylchedd ucheldirol hwn lle nad oes amddiffyniad rhag glawiad amlach a mwy eithafol yn ogystal â gwyntoedd cryfion, mae’r mawn mewn perygl mawr o erydiad.

    “Pan fydd mawn yn sychu ac yn erydu, mae’n rhyddhau carbon i’r atmosffer ac yn gwaethygu llifogydd i lawr yr afon. Mae’r Migneint yn bwydo llednentydd sy’n llifo i mewn i Afon Conwy, sy’n gallu gorlifo cymunedau i lawr yr afon yn Nyffryn Conwy yn ystod glaw trwm.

    “Trwy ail-wlychu’r gors, byddwn yn gweld yr effaith diferu-lawr yn llythrennol, gyda’r prosiect yn arafu llif dŵr, lleihau allyriadau carbon, a chreu cynefinoedd sy’n ffynnu. Bydd y cynefin wedi’i adfer o fudd i rywogaethau fel y gylfinir, aderyn hirgoes sydd mewn dirywiad serth, sydd angen tir meddalach i’w gywion i’w gwneud hi’n haws iddynt fwydo, yn ogystal ag infertebratau fel gwas y neidr sydd angen ardaloedd o ddŵr agored. Mae adfer mawn yn wir yn ateb sy’n seiliedig ar natur gydag effaith ar y byd go iawn.”

    Mae contractwyr wedi dechrau ail-lunio’r tir drwy ailbroffilio torlannau mawn (twmpathau ynysig o fawn), adeiladu argaeau mawn, a chreu pyllau i godi lefelau dŵr.  Nod yr ymyriadau hyn yw annog mwy o figwyn, sef planhigyn sy’n hoff iawn o ddŵr ac sy’n rhoi hwb i’r broses gwella ac yn helpu i ffurfio mawn newydd. Wrth i lystyfiant ddychwelyd, mae garwedd yr wyneb yn cynyddu ac yn helpu ymhellach i gadw dŵr ac i helpu i leihau llifogydd i lawr yr afon.

    Er mwyn helpu i roi hwb i’r aildyfiant yma, bydd gwirfoddolwyr, sydd yn cynnwys pobl ifanc frwdfrydig o Wersyll yr Urdd Glan-llyn, yn ymuno â’r ymdrech, yn trawsblannu miloedd o figwyn o rannau arall y safle, i helpu’r aildyfiant. Mae eu cyfraniad yn nodi dechrau ymdrech cymunedol ehangach i adfer yr ecosystem hanfodol yma.

    “Mae gorgorsydd fel y Migneint yn dawel bach yn darparu manteision enfawr i natur, hinsawdd a phobl,” parhaodd Iago. “Diolch i gefnogaeth hael Admiral Group, rydym yn cymryd camau i adfer y cynefin gwerthfawr hwn; lleihau allyriadau carbon, gwella ansawdd dŵr, a helpu bywyd gwyllt i ffynnu.  Mae’n enghraifft wych o sut y gall partneriaethau yrru newid positif i bobl a’r amgylchedd.”

    Meddai Emma Richards, Swyddog Awyr Agored, Urdd Gobaith Cymru: “Mae gweld pobl ifanc yn cymryd rhan yn adfer ecosystem mor werthfawr â’r Migneint yn ysbrydoledig.

    “Mae’r ffaith bod 1cm o fawn yn cymryd tua 100 mlynedd i ffurfio yn tanlinellu pa mor werthfawr yw’r gwaith yma – pan fydd y gwirfoddolwyr ifanc yma yn eu 60au, bydd y gors wedi tyfu tua 5cm, gan adlewyrchu eu cyfraniad parhaol i ddyfodol Cymru. Mae’r prosiect yn gyfle gwych i feithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol, cyfrifoldeb cymunedol, a balchder yn ein tirweddau naturiol.”

    Nid yw’r prosiect yn ymdrech ynysig, gan adeiladu ar flynyddoedd o waith adfer ar draws y Migneint drwy brosiect Uwch Conwy, ac mae’n cyfrannu at y weledigaeth hirdymor ar gyfer yr Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Gyda’i gilydd, mae’r mentrau hyn yn llunio mosaig o fawndir iach, gan adfer strwythur naturiol a gwytnwch y dirwedd ar gyfer cenedlaethau i ddod.

    Bydd y gwaith yn cymryd saib yn y gwanwyn i warchod adar sy’n nythu ar y ddaear, gyda monitro yn parhau i asesu cynnydd. Er y gall y safle edrych yn foel ar y dechrau, disgwylir arwyddion gweledol o adferiad erbyn yr haf wrth i lystyfiant gymryd gafael a’r gors yn dechrau gwella.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.94m i gryfhau sefydliadau diwylliannol Cymru

    December 22, 2025

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2026 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.