Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Ers ei darganfod yn 2002, mae’r llong wedi ennyn diddordeb pobl ledled y byd, sy’n awyddus i ddysgu mwy am pryd y cafodd ei hadeiladu, o ble ddaeth hi a sut ddaeth hi i Gasnewydd yn y diwedd.
Bydd y rhaglen ddogfen ddwy ran yn archwilio’r hanes hwn, arwyddocâd rhyngwladol y llong, a sut y gwnaeth dau o ryfeloedd mwyaf cythryblus a threisgar Ewrop siapio ei thynged.
Mae S4C yn gweithio mewn partneriaeth â Sky History ar y rhaglen ddogfen. Bydd Cyfrinachau’r Llong / A Ship Through Time yn dechrau nos Lun 10 Tachwedd am 9pm ar Sky HISTORY, a nos Sul 16 Tachwedd am 8pm ar S4C. Bydd hefyd ar gael ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer. Cafodd ei chynhyrchu gan y cwmni cynhyrchu annibynnol rhanbarthol One Tribe TV ac mae’n cael ei dosbarthu gan Sphere Abacus.
Fe’i comisiynwyd ar gyfer S4C gan Iwan England ac ar gyfer Hearst Networks EMEA gan Dan Korn, is-lywydd rhaglennu.
“Mae Llong Ganoloesol Casnewydd yn ddarn pwysig o hanes ein dinas,” meddai Emma Corten, aelod cabinet dros ddiwylliant a chyfathrebu yng Nghyngor Dinas Casnewydd.
“Rydym wrth ein bodd y bydd Cyfrinachau’r Llong / A Ship Through Time yn adrodd stori’r llong i gynulleidfaoedd newydd, gan godi ei phroffil ledled Cymru a’r DU. Allwn ni ddim aros i weld y rhaglen yn cael ei darlledu fis nesaf!”
Wrth siarad am greu’r rhaglen, dywedodd Catrin Evans, cyfarwyddwr a chynhyrchydd y gyfres yn One Tribe TV:
“Mae wedi bod yn fraint llwyr cyfarwyddo’r rhaglen ddogfen hon ac adrodd hanes llong ganoloesol anhygoel Casnewydd a’r gwaith diflino a thrylwyr y mae’r tîm ymroddedig y tu ôl i’w darganfod, ei hymchwil a’i chadwraeth wedi bod yn ei wneud.
“Bydd y darganfyddiad archeolegol hwn o arwyddocâd rhyngwladol heb os yn gwneud cyfraniad arloesol i hanes a threftadaeth Cymru ac yn dod â stori’r llong yn fyw i’r cenedlaethau i ddod.”
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am hanes y llong cyn i’r rhaglen gael ei darlledu, mae yna un cyfle olaf i alw heibio i ganolfan ymwelwyr Llong Casnewydd y penwythnos hwn.
Gall ymwelwyr roi cynnig ar ein profiad realiti rhithwir, sy’n eich rhoi chi ar y dec tra bod y llong ar y môr, i gael teimlad o sut fyddai bywyd ar y llong wedi bod.
Os hoffech glywed mwy am stori’r llong, byddwch yn gallu gwrando ar/prynu canllaw sain newydd wedi’i adrodd gan yr actor Michael Sheen.
Gallwch hefyd fynd yn ôl mewn amser i Wlad y Basg yn y 15fed ganrif gyda’n hanimeiddiad sy’n dangos y llong yn cael ei hadeiladu a’i lansio. Mae hwn, yn ogystal ag animeiddiad o daith dyngedfennol y llong i Gasnewydd, ar gael i’w gweld yn y ganolfan.
Bydd y ganolfan ar agor ddydd Gwener 31 Hydref a dydd Sadwrn 1 Tachwedd, rhwng 10.30am a 4pm.
Ar ôl hyn, bydd y ganolfan ymwelwyr yn cau am y gaeaf, gan ailagor eto ar gyfer tymor ymwelwyr 2026, rhwng 27 Mawrth a 31 Hydref.
Bydd tymor ymwelwyr 2026 yn cynnwys Ffair Haf Ganoloesol flynyddol y ganolfan, fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf.
Mae mynediad i’r ganolfan am ddim, ond croesewir rhoddion i Gyfeillion Llong Casnewydd.
