Close Menu
    Facebook X (Twitter) Instagram
    Wales 247
    • Cymru
    • FindMyTown
      • South East Wales
      • South West Wales
      • Mid & West Wales
      • North East Wales
      • North West Wales
    • Business
    • Education
    • What’s On
    Facebook X (Twitter) LinkedIn
    • Cardiff
    • Swansea
    • Christmas
    • Charity
    • Motoring
    • Got a story?
    • Advertise
    • Property
    • Cornered
    • Life
    Wales 247
    Home » Sain Ffagan i gynnal dathliad byrlymus o dreftadaeth fyw Cymru
    Yn Gymraeg

    Sain Ffagan i gynnal dathliad byrlymus o dreftadaeth fyw Cymru

    Rhys GregoryBy Rhys GregoryNovember 18, 2025No Comments
    Share Facebook Twitter Copy Link LinkedIn Email WhatsApp
    Credit: Aled Llywelyn/ Amgueddfa Cymru
    Share
    Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email Copy Link

    Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.

    Bydd digwyddiad am ddim yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol (TDdA) yn cael ei gynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ddydd Iau 20 Tachwedd.

    Bydd y digwyddiad – a drefnir gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn lansio galwad ledled y DU i ymarferwyr TDdA – yn dod â sefydliadau diwylliannol, grwpiau cymunedol ac ymarferwyr treftadaeth ynghyd i ddathlu’r traddodiadau byw sydd wedi’u hymgorffori mewn cymunedau ledled Cymru.

    Bydd y dathliad undydd yn arddangos tapestri cyfoethog o dreftadaeth fyw, yn amrywio o grefftau a sgiliau traddodiadol i fynegiannau diwylliannol cyfoes.

    Bydd y digwyddiad yn cynnwys ystod amrywiol o weithgareddau trwy gydol y dydd. Bydd crefftwyr traddodiadol, gan gynnwys seiri maen, seiri coed ac eraill yn arddangos sgiliau treftadaeth yn Y Gweithdy. Yn yr Atriwm, bydd stondinwyr yn cynnwys y Ganolfan Gyryglau Genedlaethol a fydd yn arddangos amrywiaeth o gyryglau traddodiadol Cymru.

    Mae uchafbwyntiau o ran y perfformiadau yn cynnwys cerddoriaeth a dawns o Gymru, adrodd straeon, dawns llew Tsieineaidd, Côr Meibion Rhisga, QWERIN, cerddwyr stilt Danceblast, a Chôr Ptasie Radio Cymru. Bydd catgorn eiconig Cymru, sef corn siâp S metelaidd anferth yn seiliedig ar yr hyn a ddefnyddiwyd gan y Celtiaid hynafol wrth iddynt fynd i’r gad, hefyd yn cael ei arddangos ac ar waith.

    Ar yr un pryd, bydd cyfres o sgyrsiau yn y ddarlithfa yn archwilio treftadaeth fyw o sawl persbectif:

    • Pwysigrwydd treftadaeth fyw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru
    • Sut mae treftadaeth fyw yn ymddangos mewn cymunedau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol
    • Mynegi treftadaeth fyw drwy’r celfyddydau a sgiliau treftadaeth

    Mae’r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael yn y ddarlithfa.

    Follow on Facebook Follow on X (Twitter) Follow on LinkedIn
    Share. Facebook Twitter LinkedIn Email WhatsApp Copy Link
    Avatar photo
    Rhys Gregory
    • X (Twitter)
    • Instagram
    • LinkedIn

    Editor of Wales247.co.uk

    Related Posts

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Comments are closed.

    Yn Gymraeg

    Arloesedd ledled y byd mewn endosgopi un-defnydd yn cael ei sbarduno gan fuddsoddiad gan Ranbarth Cyfalaf Caerdydd

    December 5, 2025

    Cronfa £35 miliwn yn trawsnewid tir gwag yn gymunedau newydd

    December 1, 2025

    Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu i dros 90,000 hectar

    November 25, 2025

    Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

    November 25, 2025

    Ffyrdd mwy diogel i fenywod wrth wraidd y canllawiau teithio gweithredol newydd

    November 23, 2025

    Mwy o drenau a gwasanaethau diweddarach wrth i newidiadau at amserlen Cymru gyrraedd

    November 21, 2025

    Staff GIG Cymru i gael gwell tâl yn dilyn cytundeb cenedlaethol newydd

    November 20, 2025
    Follow 247
    • Facebook
    • Twitter
    • YouTube
    • LinkedIn

    247 Newsletter

    Sign up to get the latest hand-picked news and stories from across Wales, covering business, politics, lifestyle and more.

    Wales247 provides around the clock access to business, education, health and community news through its independent news platform.

    Email us: [email protected]
    Contact: 02922 805945

    Facebook X (Twitter) YouTube LinkedIn RSS
    More
    • What’s On Wales
    • Community
    • Education
    • Health
    • Charity
    • Cardiff
    • Swansea
    Wales Business
    • Business News
    • Awards
    • Community
    • Events
    • Opinion
    • Economy
    • Start-ups
    • Home
    • About
    • Advertise
    • Picture Desk
    • Privacy
    • Corrections
    • Contact
    © 2025 Wales 247.

    Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.